Disg hyblyg

Oddi ar Wicipedia
Disg hyblyg
Disgiau hyblyg 8 modfedd, 5¼ modfedd, a 3½ modfedd
Mathdevice app, magnetic storage, removable media, storio data, machine-readable medium Edit this on Wikidata
DeunyddBoPET, iron(II,III) oxide Edit this on Wikidata
Cysylltir gydafloppy disk drive Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1964 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae disg hyblyg, disg llipa neu disg lipa (Saesneg: "floppy disk") yn fath o ddisg storio sydd wedi'i chreu o gyfrwng storio magnetig tenau a hyblyg, ac wedi'i selio mewn casyn plastig hirsgwar a'i leinio gyda deunydd sy'n gwaredu gronynnau llwch. Mae disgiau hyblyg yn cael eu darllen a'u hysgrifennu gan yrrwr disgiau hyblyg.

Roedd disgiau hyblyg, yn gyntaf fel cyfwng 8 modfedd (200 mm) ac yna mewn meintiau 5¼ modfedd (133 mm) a 3½ modfedd (90 mm), yn hollbresennol fel ffurf o storio a chyfnewid data o ganol y 1970au hyd at flynyddoedd cyntaf yr 21g.[1] Erbyn 2006 prin oedd y cyfrifiaduron newydd oedd yn cynnwys gyrrwr disg hyblyg; gellir defnyddio disgiau 3½ modfedd gyda gyrrwr disgiau hyblyg allanol sy'n cysylltu trwy USB, ond mae gyrwyr USB ar gyfer disgiau 5¼ modfedd, 8 modfedd, ac ansafonol yn brin, os nad yn anfodol. Defnyddir hen offer i ymdrin a'r fformatau hyn fel arfer.

Tra bod rhai defnyddiau o hyd i ddisgiau hyblyg, yn arbennig gyda hen offer cyfrifiadurol mewn meysydd diwydiannol, maen nhw bellach wedi'u disodli gan ddulliau storio data ar raddfa llawer mwy, fel ffyn cof USB, cardiau storio fflach, disgyrwyr allanol, disgiau optegol, a rhwydweithiau cyfrifiadurol. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fletcher, Richard (30 Ionawr 2007). "PC World announces the end of the floppy disk". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 22 Mehefin 2011.