Deddfwrfa

Oddi ar Wicipedia

Mae deddfwrfa [1] yn gynulliad ystyriol gyda'r awdurdod i ddeddfu ar gyfer endid gwleidyddol fel gwladwriaeth, talaith neu ddinas fawr. Mae deddfwrfeydd yn ffurfio rhannau pwysig o'r mwyafrif o lywodraethau; yn y model gwahanu pwerau, maent yn aml yn cael eu cyferbynnu â Gweithrediaeth [2] a Barwniaeth [3] y llywodraeth. Ceir y cofnod cynharaf o'r gaith "deddfwrfa" o 1874.[4]

Fel rheol, gelwir deddfau a ddeddfir gan ddeddfwrfeydd yn ddeddfwriaeth sylfaenol neu Deddfwriaeth cynradd.[5] Yn ogystal, gall deddfwrfeydd arsylwi a llywio gweithredoedd llywodraethu, gydag awdurdod i ddiwygio'r gyllideb dan sylw. Ceir reolau lleol ar ba ddeddfwriaeth sy'n cael ei ganiatáu i bob deddfwrfa neu siambr, ei wneud.

Gelwir aelodau deddfwrfa yn ddeddfwyr neu seneddwyr neu cynghorwyr. Mewn democratiaeth, deddfwyr sy'n cael eu hethol yn fwyaf cyffredin, er bod etholiad anuniongyrchol a phenodiad gan y weithrediaeth hefyd yn cael eu defnyddio, yn enwedig ar gyfer deddfwrfeydd dwysiambrog sy'n cynnwys siambr uchaf.

Gwaith deddfwrfa[golygu | golygu cod]

Map yn dangos gwahanol dermau am y ddeddfwrfa genedlaethol

Yn gyffredinol bydd Deddfwrfa y codi trethi, creu deddfau, mewn system unsiambraeth caiff y deddfau eu llunio a'u pasio o fewn un siambr (dyma'r sefyllfa mewn sawl gwladwriaeth, yn enwedig gwladwriaethau llai). Mewn system dwysiambraeth caiff deddfau eu llunio a'u pasio yn y "siambr isaf" (Tŷ'r Cyffredin yn achos y Deyrnas Unedig neu Dáil Éireann yn achos Gweriniaeth Iwerddon) ac yna eu pasio ymlaen i'r "uwch siambr" neu "ail siambr" (Tŷ'r Arglwyddi, Seanad Éireann) ar gyfer diwygiadau, ond fel rheol, nid i'w gwrthod.

Er bod y Gweithrediaeth (y Llywodraeth) wedi eu hethol, fel rheol, yr un pryd â gweddill y Ddeddfwrfa, maent ar wahân. Gwaith y Ddeddfwrfa yw craffu a dal y Gweithrdfa i gownt. Gall y Ddeddfwrfa, os oes ganddi'r niferoedd o aelodau seneddol, wrthod mesur neu gynnig gan y Weithrediaeth.

Nodweddion deddfwrfa ddemocrataidd[golygu | golygu cod]

Ceir amryw o nodweddion sy'n gyffredin i ddeddfwrfeydd democrataidd, ond gydag amrywiaethau yn ôl traddodiadau y wlad a natur y democratiaeth (neu diffyg democratiaeth).

  • Caiff deddfwrfa ei hethol mewn etholiad drwy wahanol ddulliau o bleidleisio, er enghraifft, y pleidlais gyfrannol.
  • Bydd aelodau'r ddeddfwrfa yn ethol arweinydd y wlad neu'r cyngor - dyma'r sefyllfa gyda Senedd Cymru. Neu, caiff yr arweinydd ei ethol mewn etholiad ar wahân - dyma'r sefyllfa'n aml lle ceir Arlywydd fel Arlywydd yr Unol Daleithiau
  • Caiff aelodau'r Ddeddfwrfa eu hethol am gyfnod penodol o amser - 5 mlynedd yn Senedd Cymru
  • Byddant, fel rheol, yn creu pleidiau gwleidyddol, er, fel rheol, caniateir unigolion nad sy'n aelod o unrhyw blaid i sefyll a chymryd sedd hefyd
  • Caiff aelodau'r Ddeddfwrfa gyflog a ceir gwahanol reolau ar faint, os o gwbl, o arian allanol a rhoddion gall ddeddfwr dderbyn neu ennill

Gwahanu pwerau[golygu | golygu cod]

Yn ffurfiol mae tri phŵer gwahanol mewn cwrteisi:

  • yr awdurdod deddfwriaethol (Deddfwrfa)
  • y gangen weithredol (Gweithrediaeth)
  • y farnwriaeth (Barnwriaeth)

Mewn democratiaeth mae'r pwerau hyn wedi'u gwahanu, yn unol ag egwyddor y Trias politica. Mae hyn yn golygu na all un person nac un corff arfer y pwerau hyn ar yr un pryd. Mewn democratiaeth, mae'r ddeddfwrfa hefyd yn cael ei hethol gan y bobl mewn etholiadau rhydd.

Terminoleg[golygu | golygu cod]

Adeilad yr Alþing, deddfwrfa hyna'r byd

Mae'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at gorff deddfwriaethol yn amrywio yn ôl gwlad.

Ymhlith yr enwau cyffredin mae:

  • Senedd - benthyciad o'r Lladin a'r Ffrangeg. Ceir amrywiaethau ar sillafiad ac ynganiad y gair mewn sawl iaith e.e. yn y Wyddeleg ceir Seanad Éireann a cheir Senat yn Ffrainc - ill dwy yn ail siambr Deddfwrfa'r wladwriaeth. Cafwyd y cofnod cynharaf o'r gair "senedd" yn y Gymraeg o'r 13g yn trafod sened Ruuein (senedd Rufain) yn gwarchod ynys Prydain.[6] Daw'r gair "synod" a ddefnyddir mewn cyd-destun crefyddol, o'r un gwraidd Lladin.
  • Cynulliad - ("i ymgynnull"), mae'r Cymraeg y calque o'r Ffrangeg Assemblée. Ceir y cyfeiriad cofnod cynharaf o'r gair yn y Gymraeg o'r Beibl yn 1620, gyda "cynnulliad pobloedd".[7] Gelwir prif siambr deddfwrfa Ffrainc yn Assemblée nationale.
  • Cyngres - (o "ymgynnull" yn Ffrangeg)
  • Deiet - ('pobl' mewn hen Almaen)
  • Duma - (o dúm Rwsiaidd 'meddwl')
  • Ystadau neu Estates - (o'r hen 'gyflwr' neu 'statws' Ffrangeg)
  • Parlement - (o Ffrangeg parlez "i siarad") defnyddiwyd yn fynych yn y Gymraeg o'r 14g ymlaen gyda'r cyfeiriad cynharaf gan Dafydd ap Gwilym.[8]
  • Ting - (o'r Norseg am 'cynnull', a esblygodd maes yn y Saesneg i'r ystyr gyfoes o "thing" sef, "peth"[9]) - mae ting neu thing yn gyffredin fel enw ar seneddau gwledydd Llychlyn, megis yr Alþing, senedd Gwlad yr Iâ a senedd hynaf y byd.

Er bod y rheolau penodol ar gyfer pob deddfwrfa yn wahanol yn ôl lleoliad, maent i gyd yn anelu at wasanaethu'r un pwrpas o benodi swyddogion i gynrychioli eu dinasyddion i bennu deddfwriaeth briodol ar gyfer y wlad.

Hanes[golygu | golygu cod]

Siambr Senedd Cymru - a newidiodd enw'r ddeddfwrfa o Cynulliad i Senedd yn 2020

Ymhlith y deddfwrfeydd cydnabyddedig cynharaf roedd yr Athenian Ecclesia.[10] Yn yr Oesoedd Canol, byddai brenhinoedd Ewropeaidd yn cynnal cynulliadau o'r uchelwyr, a fyddai wedyn yn datblygu i fod yn rhagflaenwyr deddfwrfeydd modern.[10] Yn aml, gelwid y rhain yn Ystadau. Y ddeddfwrfa hynaf sydd wedi goroesi yw'r Althing Gwlad yr Iâ, a sefydlwyd yn 930 CE.

Cymru[golygu | golygu cod]

Cynhaliodd Owain Glyndŵr ddeddfwrfa neu senedd yn 1400. Etholwyd ef yn Dywysog Cymru yn y senedd yn Rhuddlan yn 1400 a cynhaliwyd seneddau eraill ym Machynlleth ac Aberystwyth. Defnyddiwr Cyfraith Cymru fel sail i'r seneddau yma.

Mae sefyllfa llywodraethiant Cymru a Senedd Cymru yn dangos politi anghyflawn gan nad oes gan Gymru farnwriaeth annibynnol ei hun. Mae hyn yn sefyllfa anghymharus ac unigryw, hyd yn oed mewn cyd-destun gwledydd is-wladwriaeth eraill. Mae gan Ogledd Iwerddon ei barnwriaeth ei hun a'r Alban a hefyd taleithiau fel rhai Unol Daleithiau America.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://termau.cymru/#legislature
  2. http://termau.cymru/#the%20executive
  3. http://termau.cymru/#judiciary
  4.  deddwrfa. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  5. http://termau.cymru/#primary%20legislation
  6.  senedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  7.  cynulliad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  8.  parlement. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  9. Harper Online, s.v. "thing"
  10. 10.0 10.1 Hague, Rod, author. (14 October 2017). Political science : a comparative introduction. pp. 128–130. ISBN 978-1-137-60123-0.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.