Das Kapital

Oddi ar Wicipedia
Das Kapital
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
GolygyddFriedrich Engels Edit this on Wikidata
AwdurKarl Marx Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1867 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1844 Edit this on Wikidata
Genretraethawd Edit this on Wikidata
Prif bwncCyfalafiaeth, Economeg wleidyddol, social philosophy, damcaniaeth mewn economeg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCapital, Volume I, Capital, Volume II, Capital, Volume III Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Tudalen deitl argraffiad 1867 o Das Kapital gan Karl Marx

Traethawd estynedig yn yr Almaeneg ar economeg wleidyddol gan Karl Marx, wedi'i golygu yn rhannol gan ei gymrawd Friedrich Engels, yw Das Kapital ("Cyfalaf"). Mae'r llyfr, a ystyrir yn destun sylfaenol Marcsiaeth, yn cynnig dadansoddiad beirniadol o'r sustem cyfalafiaeth, yn enwedig yn ei goblygiadau economaidd ymarferol, a hefyd, i raddau, o ddamcaniaethau cysylltiedig eraill. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf (o dair) yn 1867.

Gyrrir cyfalafiaeth, yn ôl Marx, trwy ymddieithrio llafur y dosbarth gweithiol ac elwa arno. Daw'r elw i ddwylo'r cyfalafwyr o'r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnad y cynnyrch a'r pris a geir amdano ar y farchnad, sef yr elw dros ben. Ond er bod llyfr Marx yn ymhel a chyflwr cymdeithasol y gweithwyr, nid yw'n draethawd moesegol ond yn hytrach mae'n ymgais i ddadansoddi ac esbonio deddfau mewnol y sustem, ei gwreiddiau hanesyddol a'i dyfodol. Ceisia Marx ddatgelu y ffordd mae cyfalaf yn cael ei grynhoi, twf gweithio am gyflog, trawnewidiad y gweithle mewn canlyniad i hynny, crynhoad cyfalal, cystadleuaeth, y sustem bancio a chredyd, tueddiad y cyfradd elw i ddisgyn, rhenti tir, a sawl peth arall.

Eginyn erthygl sydd uchod am gomiwnyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.