Cylchred bywyd

Oddi ar Wicipedia

Cylchred bywyd neu ar lafar gwlad cylch bywyd yw'r cyfnod hwnnw sy'n cwmpasu holl genhedlaethau rhywogaeth arbennig a gychwynir drwy atgenhedlu; ffurfir y "cylch" pan fo'r atgenhedlu'n cael ei basio ymlaen i'r genhedlaeth nesaf e.e. mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn (sef y glöyn byw gydag adenydd.

Adscita geryon yn atgenhedlu (Fideo, 1m 55e)

O ran dyn, ceir y cyfnodau: ŵy, babi, plentyn, glasoed ac oedolyn.

O ran newidiadau ploidy ceir 3 math o gylchred:

  • haplontig
  • diplontig
  • diplobiontig (neu haplodiplontig)
Cylchred bywyd Melyn y rhafnwydd (Glöyn byw)
Paru (chwith: gwryw.)
Pwpa neu chwiler

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]