Cyfraith yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Cyfraith yr Alban
Enghraifft o'r canlynolsystem gyfreithiol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llywodraeth yr Alban: y fan lle mae Cyfreithiau'r Alban yn cael eu creu

Cyfraith yr Alban yw cyfundrefn gyfreithiol yr Alban. Mae'n gyfundrefn gyfreithiol gymysg, sy'n cynnwys cyfraith sifil ac elfennau o gyfraith gyffredin, sy'n olrhain ei gwreiddiau i nifer o ffynonellau hanesyddol.[1][2] Ynghyd â chyfraith Cymru a Lloegr a chyfraith Gogledd Iwerddon, mae'n un o dair cyfundrefn cyfreithiol y Deyrnas Unedig.[3]

Mae'n rhannu elfennau gyda'r ddwy gyfundrefn arall, ond mae ganddi hefyd ei ffynonellau unigryw ei hun. Dechreuwyd Gyfraith yr Alban cyn yr 11g, yn cynnwys elfennau cyfreithiol y Pictiaid, Gaeliaid, Brythoniaid, Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr. Wrth sefydlu ffiniau Teyrnas yr Alban sefydlwyd gwreiddiau Cyfraith yr Alban, a gafodd ei dylanwadu hefyd gan draddodiadau cyfandirol e.e. cyfeirir at gyfraith Rufeinig, mewn ffurf wedi'i addasu, lle nad oedd gan yr Albanwyr frodorol reol i ddatrys anghydfod.

Mae Cyfraith yr Alban yn cydnabod pedair ffynhonnell o gyfraith: deddfwriaeth, cynsail cyfreithiol, ysgrifau academaidd penodol ac arferiad. Gall deddfwriaeth sy'n effeithio ar yr Alban gael ei basio gan Senedd yr Alban, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd Ewrop, a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhywfaint o ddeddfwriaeth a basiwyd cyn-1707 gan hen Senedd yr Alban yn dal i fod yn ddilys. Ers Deddf Uno â Lloegr 1707, mae'r Alban wedi rhannu ddeddfwrfa â Chymru a Lloegr ond fe gedwodd yr Alban ei chyfundrefn gyfreithiol yn sylfaenol wahanol i'r un i'r de o'r ffin. Mae'r Undeb i ffurfio Prydain wedi dylanwadu yn fawr ar gyfraith yr Alban. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfraith yr Alban hefyd wedi cael ei effeithio gan gyfraith Ewrop o dan ddylanwad Deddf Hawliau Dynol 1998 er mwyn cydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (CEHD). Wedi datganoli ac ailsefydlu Senedd yr Alban gall Senedd yr Alban basio deddfwriaeth o fewn pob ardal datganoledig, fel y nodir gan Ddeddf yr Alban 1998.[4][5]

Yr Alban fel Awdurdodaeth Gyfreithiol[golygu | golygu cod]

Mae Cyfraith y Deyrnas Unedig yn lled-ffederal ac yn ffurfio tair awdurdodaeth ar wahân :.

  • Cymru a Lloegr
  • Yr Alban a
  • Gogledd Iwerddon

Mae gwahaniaethau pwysig rhwng y Gyfraith yn yr Alban a chyfraith Cymru a Lloegr yn y cyfreithiau canlynol: eiddo, troseddol, cyfraith ymddiriedolaeth, cyfraith etifeddiaeth, tystiolaeth a theuluol er bod tebygrwydd mewn meysydd cenedlaethol megis y gyfraith fasnachol, hawliau, trethiant, cyflogaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch.[6]

Mae'r gwahaniaethau Cyfraith Droseddol yn cynnwys;

  • oed cymhwyster cyfreithiol (16 oed yn yr Alban, 18 oed yng Nghymru a Lloegr)
  • rheithgorau 15-aelod ar gyfer treialon troseddol yn yr Alban (o gymharu â 12 yng Nghymru a Lloegr)
  • penderfynu drwy fwyafrif syml
  • y ffaith nad oes gan y diffynnydd mewn llys troseddol yr hawl i ddewis rhwng llys gyda rheithgor neu heb reithgor
  • Mae "trydydd dyfarniad" o "heb eu profi" yn bosibl.

Ceir hefyd gwahaniaethau terminoleg rhwng y awdurdodaethau. Yn yr Alban nid oes Llys Ynadon neu Llys y Goron, ond mae Llys Ustus Heddwch (sef Ymadon) a Llys Siryf a'r Uchel Lys. Mae'r Gwasanaeth y Procuradur Ffisgal yn darparu'r gwasanaeth erlyn cyhoeddus sy'n cyfateb i wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr.

Cyfraith Droseddol[golygu | golygu cod]

Rhennir Cyfraith yr Alban rhwng Cyfraith Droseddol a'r Gyfraith Sifil

Cyfraith Sifil[golygu | golygu cod]

Mae'r Gyfraith Sifil yn dilyn y llwybr isod - yn dibynnu ar werth ariannol yr achos yn bennaf.

Y Goruchaf Lys[golygu | golygu cod]

Does dim apêl i'r Goruchaf Lys o'r gyfundref droseddol yn yr Alban heblaw achos seiliedig ar Hawliau Dynol neu Gyfraith Ewropeiadd. Mae rôl y Pwyllgor Apeliadol Ty’r Arglwyddi wedi symud i'r Goruchaf Lys o 2009 ymlaen yn cynnwys dyfarnu ar faterion sy'n ynwneud â Datganoli. Mae cyfrifoldebau'r Cyfrin Gyngor wedi symud i'r Goruchaf Lys o Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Palmer, p. 201
  2. Tetley, Part I
  3. Stair, General Legal Concepts (Reissue), para. 4 (Online) Adalwyd 2011-11-29
  4. Sch. 5 Scotland Act 1998
  5. Devolved and reserved matters explained Archifwyd 2012-07-17 yn y Peiriant Wayback., Scottish Parliament, Adalwyd 2011-10-22
  6. Gretton & Steven, p. 318

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]