Cyfradd gychwynnol treth incwm yn y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia

Cyfradd isaf trethiant incwm personol yn y Deyrnas Unedig o 1999 i 2008 oedd cyfradd gychwynnol treth incwm yn y Deyrnas Unedig a elwir yn aml yn gyfradd 10c treth incwm[1] neu'r gyfradd dreth 10c. Fe wnaeth Canghellor y Trysorlys Gordon Brown cyflwyno'r gyfradd dreth 10c yn ei gyllideb ym 1999 a'i diddymu yn ei gyllideb derfynol yn 2007.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd y gyfradd gychwynnol yn nhrydedd gyllideb Gordon Brown fel Canghellor.[2] Roedd yn gymwys at incwm rhwng £4,335 a £5,835 ac yn codi tâl o 10%,[3] oedd yn disodli'r gyfradd sylfaenol gynt o 23%.[4] Erbyn 2008 fe gynyddwyd y gyfradd gychwynnol i gynnwys incwm rhwng £5,225 a £7,445.[5] Cyfradd isaf treth incwm oedd y gyfradd gychwynnol, a fel y cyfryw yn yr unig dreth incwm a dalwyd gan 1.8 miliwn o'r enillwyr isaf.[2] Dywedodd Gordon Brown adeg ei chyflwyniad:

Mae'r gyfradd 10c yn bwysig iawn oherwydd mae'n arwydd o'r pwysigrwydd yr ydym yn cysylltu â chael pobl i weithio ac mae o'r pwysigrwydd mwyaf i weithwyr isel eu cyflog. Nid yw hyn am gimigau ond am ddiwygiad trethiant sy'n annog gwaith a theuluoedd, o ran teuluoedd mae'n disodli'r lwfans pâr priod anomalaidd gyda chredyd treth plant.[6]

Diddymiad[golygu | golygu cod]

Yng nghyllideb 2007, cyllideb derfynol Gordon Brown fel Canghellor, diddymwyd y gyfradd gychwynnol treth incwm o Ebrill 2008 ymlaen.[7] Golyga hyn bydd holl incwm uwchben y lwfans personol (£5,435 yn 2008) ac is na'r band cyfradd uwch yn cael ei drethu ar gyfradd o 20%, gyda'r effaith bydd trethdalwyr ag enillion dros y lwfans personol lan at £232 ar eu colled pob blwyddyn.[8] Daeth diddymiad y band yn effeithiol ar ddechrau blwyddyn dreth 2008. Mae wedi bod yn ffynhonnell i gryn beirniadaeth o fewn y Blaid Lafur. Mae unigolion uchel eu proffil wedi protestio, yn cynnwys y cyn-weinidog Frank Field[9] a'r AS Angela Christine Smith.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Bwletin diweddara Radio Cymru. BBC Cymru'r Byd (30 Ebrill, 2008). Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Adroddiad y Gyllideb: Pennod 4, pwyntiau 4.49–4.52. Cyllideb 1999. Trysorlys Ei Mawrhydi (9 Mawrth, 1999). Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  3. (Saesneg) 2000 Tax Calculation Guide (PDF). Cyllid y Wlad. Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  4. (Saesneg) Adroddiad y Gyllideb. Cyllideb 1998. Trysorlys Ei Mawrhydi. Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  5. (Saesneg) 2008 Tax Calculation Guide (PDF). Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  6. (Saesneg) Digesting the Budget. BBC (10 Mawrth, 1999). Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  7. (Saesneg) Adroddiad y Gyllideb. Cyllideb 2007. Trysorlys Ei Mawrhydi (21 Mawrth, 2007). Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  8. (Saesneg) Low-earners fear tax changes. BBC (7 Ebrill, 2008). Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  9. (Saesneg) Frank Field: Frank – but so sorry. The Independent (18 Mai, 2008). Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.
  10. (Saesneg) MP decides not to quit government. BBC (17 Ebrill, 2008). Adalwyd ar 12 Tachwedd, 2008.