Cwpan Rygbi'r Byd

Oddi ar Wicipedia
Cwpan Rygbi'r Byd
Cwpan Webb Ellis
Chwaraeon Rygbi'r Undeb
Sefydlwyd 1987
Motto A World in Union
Nifer o Dimau 20 (16 rhwng 1987 a 1995)
Pencampwyr presennol Seland Newydd
Gwefan Swyddogol http://www.rugbyworldcup.com

Cwpan Rygbi'r Byd yw prif gystadleuaeth rhyngwladol rygbi'r undeb. Cynhelir twrnament bob pedair blynedd ers y bencampwriaeth gyntaf yn 1987 yn Awstralia a Seland Newydd. Trefnir y gystadleuaeth gan gorff llywodraethol y gamp yn rhyngwladol, World Rugby.

Y pencampwyr presennol yw Seland Newydd enillodd y gystadleuaeth yn 2015 yn erbyn Awstralia. Mae un tîm wedi codi'r tlws 3 gwaith - Seland Newydd, a mae dau tîm wedi codi'r tlws ddwywaith; Awstralia a De Affrica.

Mae'r enillwyr yn derbyn Cwpan Webb Ellis sy'n dwyn enw'r disgybl o Ysgol Rugby lwyddodd, yn ôl y chwedl, i ddyfeisio'r gamp wrth "bigo'r bêl i fyny a rhedeg gydag o".

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd rygbi'r undeb yn rhan o Gemau Olympaidd yr Haf ym Mharis ym Mharis 1900, Llundain 1908, Antwerp 1920 ac ym Mharis 1924. Ffrainc enillodd y fedal aur cyntaf, yna Awstralia gyda'r ddwy gystadleuaethn rygbi olaf yn y Gemau Olympaidd yn cael eu hennill gan Unol Daleithiau America, ond ni chafodd rygbi'r undeb ei gynnwys yn y gemau ar ôl 1924[1][2]

Cafodd Cwpan Rygbi'r Byd ei grybwyll ar sawl achlysur yn mynd yn ôl at y 1950au, ond gyda'r gamp yn parhau i fod yn gêm amatur roedd y rhan fwayf o Undebau'r International Rugby Football Board (IRFB) yn erbyn y syniad[3][4]. Ym 1985, roedd Awstralia, Seland Newydd a Ffrainc o blaid cynnal Cwpan Rygbi'r Byd, ac er nad oeddent yn cael cystadlu oherwydd sancsiynau yn erbyn system apartheid y wlad, roedd De Affrica hefyd o blaid.

Golygai hynny fod y bleidlais yn gyfartal 8-8 ond, wedi i aelod Lloegr acyna aelod Cymru newid eu meddyliau, cafwyd cytundeb i drefnu Cwpan y Byd am y tro cyntaf ym 1987[4]

Pencampwriaethau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Lleoliad Rownd Derfynol Gêm 3ydd/4ydd Nifer o dimau
Enillydd Sgôr Ail Trydydd Sgôr Pedwerydd
1987 Baner Awstralia Awstralia a
Baner Seland Newydd Seland Newydd
Baner Seland Newydd
Seland Newydd
29-9 Baner Ffrainc
Ffrainc
Baner Cymru
Cymru
22–21 Baner Awstralia
Awstralia
16
1991 Baner Lloegr Lloegr,
Baner Ffrainc Ffrainc,
Iwerddon
Baner Yr Alban Yr Alban a
Baner Cymru Cymru
Baner Awstralia
Awstralia
12-6 Baner Lloegr
Lloegr
Baner Seland Newydd
Seland Newydd
13–6 Baner Yr Alban
Yr Alban
16
1995 Baner De Affrica De Affrica Baner De Affrica
De Affrica
15–12
(way)
Baner Seland Newydd
Seland Newydd
Baner Ffrainc
Ffrainc
19–9 Baner Lloegr
Lloegr
16
1999 Baner Cymru Cymru Baner Awstralia
Awstralia
35–12 Baner Ffrainc
Ffrainc
Baner De Affrica
De Affrica
22–18 Baner Seland Newydd
Seland Newydd
20
2003 Baner Awstralia Awstralia Baner Lloegr
Lloegr
20–17
(way)
Baner Awstralia
Awstralia
Baner Seland Newydd
Seland Newydd
40–13 Baner Ffrainc
Ffrainc
20
2007 Baner Ffrainc Ffrainc Baner De Affrica
De Affrica
15–6 Baner Lloegr
Lloegr
Baner Yr Ariannin
Yr Ariannin
34–10 Baner Ffrainc
Ffrainc
20
2011 Baner Seland Newydd Seland Newydd Baner Seland Newydd
Seland Newydd
8–7 Baner Ffrainc
Ffrainc
Baner Awstralia
Awstralia
21–18 Baner Cymru
Cymru
20
2015 Baner Lloegr Lloegr Baner Seland Newydd
Seland Newydd
34–17 Baner Awstralia
Awstralia
Baner De Affrica
De Affrica
24–13 Baner Yr Ariannin
Yr Ariannin
20
2019 Baner Japan Japan
2023 Baner Ffrainc Ffrainc 20

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rugby in the Olympics: History". World Rugby. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-27. Cyrchwyd 2015-06-27.
  2. Richards, Huw. "Rugby and the Olympics". ESPN.
  3. "History of the World Cup". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-08. Cyrchwyd 2015-06-27. Unknown parameter |published= ignored (help)CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  4. 4.0 4.1 "Rugby World Cup". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-22. Cyrchwyd 2015-06-27. Unknown parameter |published= ignored (help)