Cwpan Nanteos

Oddi ar Wicipedia
Cwpan Nanteos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2016

Dysgl masarn (math o lestr yfed) o'r Oesoedd Canol a gedwid am flynyddoedd lawer ym mhlasy Nanteos, Llanfarian ger Aberystwyth, Ceredigion, yw Cwpan Nanteos.

Nid yw'n hysbys ymhle a phryd y gwnaed y Cwpan, ond ymddengys ei fod yn dod o Abaty Ystrad Fflur yn ystod Diddymu'r Mynachlogydd a'i fod yn cael ei drosglwyddo i feddiant teulu Powell, perchnogion Nanteos.

Mae'r Cwpan yn llestr pren caled (llwyfen lydanddail yn ôl pob tebyg) heb ddolenni, gyda throed wastad eang. Yn wreiddiol, byddai wedi mesur tua 10 cm o uchder a 12 cm ar draws, er ei fod wedi cael ei nifrodi'n helaeth dros y blynyddoedd ac mae llai na hanner y peth yn weddill.

Yn unol â'r traddodiad, Cwpan Nanteos yw'r Greal Sanctaidd ei hun, y Cwpan yr yfodd Crist a'i ddisgyblion ohono yn y Swper Olaf. Ers y 19g honnir bod grym iachau goruwchnaturiol yn perthyn i'r Cwpan.

Ym mis Gorffennaf 2014, tra oedd ar fenthyg, cafodd y Cwpan ei ddwyn o dŷ yn Weston under Penyard, Swydd Henffordd, Lloegr.[1] Fe'i adferwyd ym mis Mehefin 2015.[2] Ar ôl hynny, gwnaeth y perchnogion ei roi yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle cafodd ei arddangos i'r cyhoedd yn barhaol fis Mehefin 2016.[3] Roedd yn dal i'w weld yn arddangosfa Trysorau yn y LLyfrgell, Ionawr 2024.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lusher, Adam (15 Gorffennaf 2014). "Nanteos Cup: Relic debunked as Holy Grail in documentary stolen from sick woman's home". The Independent. Llundain. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-09. Cyrchwyd 6 Medi 2017.
  2. "Dychwelyd 'cwpan yr Iesu' i'w berchennog wedi lladrad". BBC Cymru Fyw. 26 Mehefin 2015. Cyrchwyd 6 Medi 2017.
  3. "Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Darganfod y 'Greal Sanctaidd' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llgc.org.uk. Cyrchwyd 6 Medi 2017.
  4. Sylwad personol, 12.02.2024

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]