Cwmpawd

Oddi ar Wicipedia
Cwmpawd traddodiadol

Teclyn i fforio ydy'r cwmpawd, sy'n caniatáu'r defnyddiwr i ddarganfod y cyfeiriad mae'n dymuno ei wynebu. Gan fod y Ddaear yn atynnu magned i un cyfeiriad arbennig (yr hyn rydy yn ei alw'n "Ogledd"), gallem fesur yr ongl i unrhyw gyfeiriad mewn cylch o 360 gradd. Mae'r pedwar prif bwynt 90 gradd oddi wrth ei gilydd: gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Cyfunir y rhain i ddisgrifio'r cyfeiriad rhyngddynt e.e. gogledd-orllewin, de-ddwyrain. Dywedir fod y gogledd yn sero gradd, a chyfrifir y graddfeydd dilynol yn glocwedd, un gradd, dwy radd, tair gtradd ayb. Mae'r dwyrain yn 90 gradd.

Mae'r cwmpawd traddodiadol yn ddibynnol ar faes magnetig, naturiol y Ddaear, gan wynebu pegynnau magnetig y Ddaear. Mae'r cwmpawd oddi fewn i ffôn yn dibynnu ar geirosgop bychan sy'n troelli.

Cwmpawd ffôn clyfar sy'n ddibynnol ar ‘fagnedomedr’ o'i fewn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Model lletwad (neu sinan) o frenhinllin Han yn wynebu'r de, wedi'i gwneud o dynfeini wedi magneteiddio

Mae'n debygol mai yn nheyrnasiad y frenhinllin Han (206 CC – 220 OC), yn Tsieina, y defnyddiwyd y cwmpawd yn gyntaf: rhwng yr 2g a'r ganrif gyntaf. Mae'n fwy na phosib mae tynfaen (mwyn haearn wedi'i fagneteiddio'n naturiol) oedd y fagned a ddefnyddiwyd. Roedd wedi cyrraedd Ewrop erbyn y 12ed ganrif, efallai drwy'r Llychlynwyr. Ganrif wedyn, roedd y cwmpawd sych wedi'i ddarganfod.

Y Cwmpawd Celtaidd[golygu | golygu cod]

Yn y ddeigram[1] gan y Llydäwr Dominig Kervegant, fe ddangosir perthynas y cwmpawd Llydewig a’r llaw chwith a’r llaw dde.

O gymryd y dwyrain yn hytrach na’r gogledd fel man cychwyn mae gogledd, sy'n gytras â kleiz ‘chwith’ yn y Llydaweg, yn dangos bod patrwm cyson yn cysylltu’r Aeleg, y Llydaweg a’r Gymraeg o leiaf.

Yn achos yr Aeleg mae gair yr iaith honno am 'de' hefyd yn golygu 'cywir' ac mae'r rheswm yn mynd â ni yn ôl i'n cyndeidiau heul-addolgar, fel mae Ruairidh MacIlleathain yn esbonio:

  • Y gair Gaeleg am granc meudwyol yw partan tuathal, yn llythrennol y 'cranc chwithig' (neu trwsgwl). Cysylltir tuathal â chwith (aswy) a gogledd, yn ogystal â bod yn gysylltiedig â 'chwithdod' neu 'anghywirdeb'. Benthycwyd 'partan' o'r iaith Sgotaidd ac fe'i defnyddir o hyd am 'cranc' yn nhafodiaith Sgotaidd y gogledd- ddwyrain. Fe'm hatgoffir gan brif gyfeiriadau'r cwmpawd o'r arferiad hynafol o wynebu'r haul dyrchafol yn y dwyrain, gyda'r deheulaw, neu'r deheubarth, ar y llaw dde. Dwyrain yw an ear a olygai yn wreiddiol 'o flaen', a gorllewin yw an iar, a olygai tu ôl. Fe geir y ddau derm mewn enwau lleoedd - er enghraifft, y gair Gaeleg am Ynysoedd Heledd gorllewin yr Alban yw Na h-Eileanan an Iar.
  • Y term am 'de' yw deas, sydd hefyd yn golygu 'cywir'. Fe berthyn y gair o bell i'r Lladin dexter ac felly i'r Saesneg dextrous, gydag atgofion eto o 'gywirdeb' a sgilgarwch.
  • Cyfyd hyn o naturioldeb symudiad yr haul o'r dwyrain i'r gorllewin trwy ddeheuon yr wybren yn hemisffer y gogledd. Gwelir symudiad 'heulwedd' neu glocwedd (a elwir deiseil yn yr Aeleg) hyd heddiw yn niwylliant y Gael fel rhywbeth mwy dymunol na'r gwrthwyneb, sef tuathal. Daw hwn o 'tuath', y gair Gaeleg am gogledd a olygai yn wreiddiol yn 'chwith'.
  • Awgryma'r gair tuathal wedd ar annaturioldeb neu chwithdod. Mae deas a tuath yn gymharol gyffredin yn y dirwedd - er enghraifft Uibhist a Tuath (North Uist) a Uibhist a Deas (South Uist). Ond mewn llawer o ardaloedd Gaeleg eu hiaith mae dyn yn teithio suas gu deas (‘i fyny i'r de’) a sìos gu tuath (‘i lawr i'r gogledd’), sef yn groes i'r hyn a arferid yn y Gymraeg neu'r Saesneg fodern.[2]

Camdarddiad poblogaidd[golygu | golygu cod]

Dyma Ruairidh MacIlleathain eto:

I was told by a Welsh-speaker – I think at Nant Gwrtheyrn – that Gogledd meant originally ‘sword side’ ie the side the scabbard went.

Enwau lleoedd[golygu | golygu cod]

Nid yw cyfeiriadau'r cwmpawd yn amlwg iawn mewn enwau lleoedd Cymraeg (llai efallai nag yn y Llydaweg, Cernyweg nag yn yr enwau Gaelaidd eu tarddiad[angen ffynhonnell]).

-DEHEU- Yng Nghronfa Enwau Lleoedd Melville Richards [1] mae oddeutu 16 safle yng Nghymru yn cyfeirio at y de ar y ffurf -deheu-. Pedair enghraifft sydd yn cysylltu'r gair â gwrthrych arbennig: deheuwynt (gwynt), deheufryn (bryn), deheuwydd (gwydd, coed) a deheubant (pant).

-GOGLEDD- Mae 5 enghraifft yn cyfeirio at y ffurf enwol hon mewn cysylltiad â bryn a pant. Does dim enghraifft o'r ffurfiau ansoddeiriol -(g)ogleddol-

-DWYRAIN- Mae tri safle yn cynnwys y ffurf enwol -dwyrain- (aber, garn a sownd, pob un yn Sir Benfro) ond dim un yn cynnwys y ffurfiau ansoddeiriol -dwyrein(iol)-.

Does dim enghreifftiau sy'n cynnwys y ffurfiau-(g)orllewin(ol)-

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ym Mwletin Llên Natur rhifyn 45/46 (tud. 2)
  2. Cyfieithwyd i'r Gymraeg o gylchgrawn Scottish Natural Heritage Haf 2011
Chwiliwch am cwmpawd
yn Wiciadur.