Crys (band)

Oddi ar Wicipedia
Crys
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaMyfyr Isaac Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth roc caled Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Band roc/metel trwm Cymraeg yw Crys, sy'n hannu o Resolfen, De Cymru. Ffurfiwyd y band ym 1976 gan y brodyr Liam Forde (llais, gitâr) Scott Forde (gitâr fas); ac Alun Morgan (gitâr flaen) tra'n mynychu ysgol breswyl yn Henffordd, Lloegr. Eu henw gwreiddiol oedd 'Salic Law' a bu'r grŵp yn perfformio mewn nifer o dafarndai a chlybiau yn ne Cymru.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Cynigwyd cytundeb Crys i recordio sengl os oeddent yn cytuno i roi geiriau Cymraeg i'w ganeuon (a oedd wedi eu perfformio yn Saesneg yn barod). Cytunodd y band a'r canlyniad oedd y sengl "Cadw Symud / Lan yn y Gogledd" a ryddhawyd ym 1980 ar Click Records. Roedd y sengl yn cynnwys Verden Allen (Mott the Hoople) ar allweddellau a fe'i recordiwyd yn stiwdio Pet King yn Abertawe. Cwblhawyd aelodaeth y band erbyn hyn gan Nicky Samuel (drymiau).[angen ffynhonnell]

Llwyddiant[golygu | golygu cod]

Parhaodd y band i godi eu proffil trwy ymddangosiadau ar y radio a'r teledu, a arweiniodd yn y pen draw at gontract recordio gyda Recordiau Sain. Cafodd eu halbwm cyntaf Rhyfelwr ei ryddhau yn 1981, ac eu hail albwm Tymor yr Heliwr ym 1982. Chwaraewyd y ddau albwm ar Radio Cymru a BBC Radio Wales a daethont y band iaith Gymraeg cyntaf i gael wahoddiad i berfformio sesiwn ar y Friday Rock Show ar BBC Radio One a gyflwynwyd gan Tommy Vance. Perfformiwyd pedwar o ganeuon, dwy yn Gymraeg a dwy yn Saesneg, ar gyfer y sesiwn. Enillodd y ddau albwm wobr 'Albwm y Flwyddyn' yng ngwobrau blynyddol 'Sgrech' - digwyddiad a enwyd ar ôl y cylchgrawn Sgrech.[1] Mae'r band yn parhau i berfformio yn fyw ar draws Cymru, a hyd yn oed wedi gwneud fideo hyrwyddol ar gyfer y trac "Merched Gwyllt a Gwin" oddi ar eu hail albwm.

Blynyddoedd diweddar[golygu | golygu cod]

Chwalodd y grŵp am gyfnod estynedig cyn recordio trydydd albwm Roc Cafe yn 1995. Roedd y gitarydd blaen gwreiddiol Alun Morgan wedi ymfudo i Ganada erbyn hynny a ymunodd Mark Thomas yn ei le. Cafodd yr albwm ei ryddhau ar gryno ddisg gan Recordiau Fflach gan cynnwys sticer rhad ac am ddim.

Mae'r band wedi gwneud nifer o ymddangosiadau byw ac ar deledu dros blynyddoedd diwethar yn cynnwys Grant Roberts, ar gitâr flaen a Nigel Hopkins (Chris De Burgh) ar allweddellau. Roedd aduniad byr o'r aelodau gwreiddiol pan ddaeth Alun Morgan nôl ar ymweliad â Chymru, a darlledwyd perfformiad gan y band yng Ngŵyl y Faenol. Mae Crys hefyd wedi perfformio fel rhan o ŵyl Tyrfe Tawe a  digwyddiadau cerddoriaeth Mentrau Iaith Cymru

Rhyddhawyd casgliad o'r goreuon yn dwyn y teitl Sgrech gan Recordiau Sain yn 2006, a dyma'r tro cyntaf i'r rhan fwyaf o ddeunydd cynnar y band fod ar gael ar gryno ddisg ac i'w lawrlwytho ar iTunes.

Ynghyd â darlledu sesiwn recordio yn fyw ar gyfer rhaglen deledu Y Stiwdio Gefn fe wnaethon nhw ailffurfio hefyd ar gyfer gig Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar 4 Awst 2014.

Aelodau[golygu | golygu cod]

Presennol[golygu | golygu cod]

  • Liam Forde (Llais, gitâr)
  • Scott Forde (Gitâr fas)
  • Grant Roberts (Gitâr flaen)
  • Nicky Samuel (Drymiau)

Blaenorol[golygu | golygu cod]

  • Alun Morgan (Gitâr flaen) - bu farw 1 Ionawr 2012
  • Mark Thomas (Gitâr flaen)

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • "Cadw Symud / Lan yn y Gogledd" - 1980 Click Records  (Sengl 7")
  • Rhyfelwr - 1981 Recordiau Sain (LP & Caset)
  • Tymor yr Heliwr - 1982 Recordiau Sain (LP & Caset)
  • Roc Cafe - 1995 Recordiau Fflach (CD)
  • Sgrech - 2006 Recordiau Sain (CD & iTunes)
  • Noson Dawel Iawn - Liam Forde a'r Band - 2012 Recordiau Sain (iTunes):-

Liam Forde - Llais/Gitâr. Nick Samuel - Drymiau. Grant Roberts - Gitâr/Gitâr flaen. Tim Hammill - Bas/'Allweddellau'

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]