Croesgadwyr (rygbi)

Oddi ar Wicipedia
Y Croesgadwyr
UndebRygbi'r Undeb, Seland Newydd
Sefydlwyd1996
LleoliadChristchurch, Seland Newydd
ArdalBuller
Canterbury
Mid-Canterbury
South Canterbury
Tasman
West Coast
Maes/yddStadiwm AMI Stadium (Nifer fwyaf: 18,600)
HyfforddwrTodd Blackadder
CaptenKieran Read
Ryan Crotty (is-gapten)
Richie McCaw (is-gapten)
Dan Carter (is-gapten)
Cynghrair/auSuper Rugby
2014Ail
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Gwefan swyddogol
www.crusaders.co.nz

Clwb rygbi'r undeb o Christchurch, Seland Newydd ydy'r Croesgadwyr (adnabyddwyd gynt fel y Canterbury Crusaders). Maent yn cystadlu yn y Super 14 (y Super 12 gynt). Hwn yw'r clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes y "Super". Mae'r masnachfraint yn cynrychioli undebau taleithiol Buller, Canterbury, Canol Canterbury, De Canterbury, Tasman, ac Arfordir y Gorllewin. Lleolir eu maes cartref yn Stadiwm AMI, gynt Stadium Jade a Parc Lancaster.

Ffurfiwyd y clwb ym 1996 er mwyn cynrychioli rhan uchaf Ynys y De, Seland Newydd yn y Super 12, gwingodd y clwb yn ei dymor cyntaf gan orffen yn olaf. Gwellhaodd eu perfformiad ym 1997 gan orffen yn chweched allan o 12 tîm. Aeth y tîm ymlaen i ennill tri theitl rhwng 1998 a 2000 er iddynt chwarae pob gêm derfynol i ffwrdd o'u cartref. Enillont unwaith eto yn 2002 wedi cwblhau'r tymor heb gael eu curo unwaith. Cyrhaeddont y rownd derfynol yn y ddau dymor canlynol ond curwyd hwy i'r ail safle. 2005 oedd tymor olaf y Super 12 cyn iddi ehangu i gynnwys dau glwb arall a dod yn Super 14. Wedi gorffen ar y brig yn y tymor hwnnw, aeth y Croesgadwyr ymlaen i westeio'r rownd derfynol ar eu maes cartref, gan guro'r Waratahs. Rhoddwyd tlws i'r clwb gadw wedi iddynt ennill eu pumed teitl Super 12. Yn 2006, cynhaliwyd gêm gyntaf y Super 14 rhwng y Croesgadwyr a'r Hurricanes yn eu maes cartref, ac enillont o 19–12. Yn 2008, daeth y rownd derfynol i gartref y Croesgadwyr, a churodd y Croesgadwyr glwb y Waratahs unwaith eto, gyda 20–12 i hawlio eu seithfed teitl.

Chwaraewyr 2010[golygu | golygu cod]

Dyma restr y chwaraewyr yn sgwad 2010:[1]

Propiau

Bachwyr

Clo

 

Blaenwyr rhydd

Cefnwyr hanner

Maswyr

 

Canolwyr

Asgellwyr

Cefnwyr

Grŵp hyfforddi 2010[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Crusaders - Player Profiles. Adalwyd ar 2010-01-17.
Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.