Conrad Gesner

Oddi ar Wicipedia
Conrad Gesner
FfugenwPhiliatrus Evonymus, Conradus Bolovesus, Jacobus Carronus, Philiater Euonymus, Philiater Evonymus, Philiatrus Euonymus, Philiatros Euonymus, Conrad Bolovesus, Konrad Bolovesus, Conrado Boloveso, Conradus Bolovesus Fridemontanus, Jacob Carronus, Jakob Carronus Edit this on Wikidata
Ganwyd26 Mawrth 1516 Edit this on Wikidata
Zürich Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 1565 Edit this on Wikidata
Zürich Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Strasbwrg
  • Prifysgol Bourges
  • Prifysgol Montpellier Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, swolegydd, dringwr mynyddoedd, meddyg, llyfryddiaethwr, academydd, biolegydd, botanegydd, adaregydd, gwenynwr, naturiaethydd Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol, athro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amBibliotheca universalis Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Athronydd naturiol a meddyg Swisaidd oedd Conrad Gesner (26 Mawrth 151613 Rhagfyr 1565)[1] sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at fotaneg a sŵoleg.

Ganed yn Zürich, Cydffederasiwn y Swistir, a'r diwygiwr Protestannaidd Huldrych Zwingli oedd ei dad bedydd. Astudiodd diwinyddiaeth yn Zürich ac Hebraeg yn Strasbwrg, a meddygaeth yn Bourges, Paris, a Basel. Gweithiodd yn athro Groeg yn Ysgol Lausanne o 1537 i 1540 a derbyniodd ei ddoethuriaeth feddygol ym 1541. Aeth i Montpellier i astudio botaneg cyn iddo ymsefydlu yn Basel i weithio yn feddyg.[2]

Teithiodd i ddysgu mwy am blanhigion ac anifeiliaid, a chesglir ei arsylwadau am fyd natur a'i ddarluniau, yn ogystal â gwybodaeth a ddanfonwyd ato gan ysgolheigion eraill, yn y gwyddoniadur Historia animalium (1551–58). Yn y gwaith hwn fe heriai astudiaethau'r naturiaethwyr hynafol, Aristoteles yn enwedig. Er i Gesner wfftio bodolaeth creaduriaid chwedlonol megis cewri a seirenau, mae ei wyddoniadur yn cynnwys disgrifiadau o "bysgod-ddyn".[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Conrad Gesner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Awst 2020.
  2. 2.0 2.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 164–5.