Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Oddi ar Wicipedia
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mathconservatoire Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4856°N 3.1836°W Edit this on Wikidata
Map

Ysgol gerddoriaeth wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yw Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, neu'r Coleg Cerdd a Drama fel y'i gelwir fel arfer. Mae cyn-fyfyrwyr y coleg yn cynnwys Geraint Jarman, Hywel Gwynfryn a Sara Lloyd-Gregory.

Hanes a disgrifiad[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y Coleg ym 1949 fel Coleg Cerddoriaeth Caerdydd yng Nghastell Caerdydd, ond ers hynny mae wedi symud i adeiladau ar dir y castell ym Mharc Bute ger Prifysgol Caerdydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, cyn derbyn y teitl Brenhinol yn Jiwbili Aur y Frenhines yn 2002, y bumed ysgol gerddoriaeth i dderbyn y teitl hwn.

Ers agor y Coleg, rhoddwyd ei raddau gan Brifysgol Cymru ac yn 2004 daeth y Coleg yn rhan o'r brifysgol ffederal. Fodd bynnag, yn 2007, gadawodd y Coleg y Brifysgol a daeth yn sefydliad annibynnol unwaith eto. Bellach rhoddir eu graddau gan Brifysgol De Cymru.[1]

Darpara'r coleg addysg a hyfforddiant yn y celfyddydau creadigol, gydag oddeutu dwy ran o dair o'i 550 o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â cherddoriaeth, gyda'r gweddill yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â drama. Mae'n ysgol gerddoriaeth All-Steinway. Prin yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n cael ei chynnig yn y Coleg ar hyn o bryd.[2]

Cyrsiau israddedig[golygu | golygu cod]

Mae'r Coleg yn cynnig graddau israddedig yn y meysydd canlynol:

  • BMus (Anrh) Cerddoriaeth
  • BMus (Anrh) Jazz
  • BA (Anrh) Actio
  • BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol
  • BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio

Cyrsiau ôl-raddedig[golygu | golygu cod]

Mae'r Coleg yn cynnig graddau ôl-raddedig yn y meysydd canlynol:

  • MMus/Diploma ôl-radd mewn Perfformio Cerddoriaeth
  • MMus/Diploma ôl-radd mewn Perfformio Cerddorfaol
  • MMus/Diploma ôl-raddmewn Perfformio Hanesyddol
  • MA/Diploma ôl-radd mewn Jazz
  • MMus/Diploma ôl-radd yng Nghrefft y Repetiteur
  • MMus/Diploma ôl-radd mewn Cyfansoddi
  • MMus/Diploma ôl-radd mewn Cyfeilio ar y Piano
  • MMus/Diploma ôl-radd mewn Arwain Cerddorfaol
  • MMus/Diploma ôl-radd mewn Arwain Band Pres
  • MMus/Diploma ôl-radd mewn Arwain Corawl
  • MA Perfformio Opera
  • MPhil PhD mewn Cerddoriaeth
  • MA Actio Llwyfan, Sgrîn a Radio
  • MA Theatr Gerddorol
  • MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau
  • MA Cynllunio ar gyfer Perfformio
  • MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Cyn-fyfyrwyr[golygu | golygu cod]

Canolfan Anthony Hopkins

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/grp-prifysgol-de-cymru/ Archifwyd 2017-07-02 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Prifysgol De Cymru. Adalwyd 2-07-2017
  2. http://www.cbcdc.ac.uk/addysg_cyfrwng_cymraeg.aspx Archifwyd 2016-09-24 yn y Peiriant Wayback. Gwefan y Coleg (Addysg Cyfrwng Cymraeg). Adalwyd 2-07-2017

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]