Coed tân

Oddi ar Wicipedia
Pentwr o goed tân

Gall coed tân (neu priciau tân) fod yn unrhyw ddeunydd pren sy'n cael ei gasglu a'i ddefnyddio fel tanwydd. Yn gyffredinol, mae coed tân ar ffurf y gellid ei adnabod, fel boncyffion neu ganghennau, o'i gymharu â thanwydd pren fel peledi neu sglodion. Gall fod wedi'i sychu (neu sesno) neu beidio. Gellir ei ddosbarthu fel pren caled neu bren meddal.

Mae coed tân yn adnodd adnewyddadwy. Serch hynny, gall y galw am y tanwydd fod yn uwch na'i allu i adnewyddu ar lefel leol neu ranbarthol. Mae arferion da ym maes coedwigaeth a gwelliannau i'r dyfeisiadau sy'n defnyddio coed tân yn gallu gwella cyflenwadau coed lleol.