Coch dan adain

Oddi ar Wicipedia
Coch dan adain
Turdus iliacus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Turdidae
Genws: Turdus[*]
Rhywogaeth: Turdus iliacus
Enw deuenwol
Turdus iliacus







Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Coch dan adain (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: cochion dan adain) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus iliacus; yr enw Saesneg arno yw Redwing. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. iliacus, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru yn y gaeaf, ond nid ymddengys fod cofnod iddo nythu yma, er fod nifer fychan o barau yn nythu yn Yr Alban ar brydiau. Mae'r Coch Dan-aden yn aderyn mudol, sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin yn y gaeaf. Maent yn nythu mewn fforestydd, ond yn adeiladu'r nyth mewn llwyni neu ar lawr.

Mae'n nythu trwy rannau gogleddol Ewrop ac Asia ac yn aderyn cyfarwydd ymhellach i'r de yn y gaeaf.

Nyth Coch Dan-aden.

Gellir ei adnabod o'r cefn brown a bol wyn gyda rhesi neu smotiau tywyll, y lliw coch ar yr ochrau ac o dan yr adenydd a'r llinell wen amlwg uwchben y llygad. Mae tua'r un faint a Bronfraith. Ei brif fwyd yw pryfed yn yr haf ac aeron yn y gaeaf. Yn y gaeaf mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau yn gymysg gyda'r Socan Eira.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r coch dan adain yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Bronfraith Turdus philomelos
Bronfraith Mongolia Turdus mupinensis
Brych gyddfddu Turdus atrogularis
Brych gyddfgoch Turdus ruficollis
Brych tywyll America Turdus nigrescens
Brych y coed Turdus viscivorus
Coch dan adain Turdus iliacus
Mwyalch Adeinlwyd Turdus boulboul
Mwyalchen Turdus merula
Mwyalchen y mynydd Turdus torquatus
Socan eira Turdus pilaris
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Coch dan adain gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.