Coch

Oddi ar Wicipedia
Coch
Enghraifft o'r canlynollliw, web color, lliw primaidd, lliw a enwir gan HTML4 Edit this on Wikidata
Mathgoleuni, lliw Edit this on Wikidata
Rhan o7-liw'r enfys Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lliw yw coch, yn cyfateb i olau â thonfedd hir o dua 625–760 nanomedr. Mae coch yn un o'r lliwiau cynradd.

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Daw'r gair coch o'r Lladin Diweddar coccum ‘aeronen goch; prinwydden (derwen goch); coch y derw’ a ddaw ei hun o'r Hen Roeg kókkos ‘grawn, cnewyllyn; prinwydden; coch y derw’.[1] Mae'n cyfateb i'r gair am y lliw coch yn yr Albaneg sef kuq.

Symboliaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r lliw coch yn gallu symboleiddio'r canlynol: Perygl, rhyfel, gwaed, poen, Comiwnyddiaeth, Sosialaeth, dicter, cariad a nwyd.

Mae rhosod coch yn symbol o gariad a phabïau yn symbol marwolaeth, yn enwedig marwolaethau milwyr yn ystod rhyfel.

Y Ddraig Goch yw arwyddlun cenedlaethol Cymru; cyfeirir ati am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius.

Ystyron eraill[golygu | golygu cod]

Yn y Gymraeg mae "coch" yn gyfystyr a "blue" yn Saesneg yn yr ystyr "masweddus", "budr" (yn ymwneud â rhyw), e.e. jôc coch, ffilm goch (blue movie). Mae coch yn lliw a gysylltir â phuteindra mewn sawl diwylliant, gyda llusern goch neu ryw arwydd coch arall yn y ffenestr yn dynodi bod rhyw am dal ar gael yn y tŷ hwnnw (fel yn achos yr ardal golau coch adnabyddus De Wallen yn Amsterdam). Ceir y gyfrol Englynion Coch gan Wasg y Lolfa - englynion yn ymwneud â rhyw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  coch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
Chwiliwch am Coch
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.