City

Oddi ar Wicipedia
City
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.495°N 3.46°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map
Gweler hefyd Dinas (gwahaniaethu).

Pentref bychan tua 3 milltir i'r gogledd o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, de Cymru, yw City (ni cheir ffurf Gymraeg ar yr enw).[1]

Mae tarddiad ac ystyr yr enw lle "City" yn ansicr. Yn amlwg nid yw'n air Cymraeg yn y ffurf honno ond fe allai fod yn ffurf Seisnig ar enw Cymraeg sydd bellach yn anhysbys. Yn ôl rhai trigolion lleol mae'n llygriad o "Saith tŷ" ond ymddengys hynny'n annhebygol. Ond ceir yr hen air Cymraeg cyty, sy'n golygu "cydbreswyliad, cymdeithas dan yr unto; … tŷ a rennir ag eraill; tŷ dan yr unto",[2] ac mae'n bosibl mai dyna a geir yn yr enw "City". Boed hynny fel y bo, ni cheir enw Cymraeg cydnabyddedig ar y pentref.

Does dim siopau yn City heddiw. Bu yno dafarn y City Inn ond mae wedi cau rwan. Ceir neuadd pentref.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur enwau lleoedd Canolfan Bedwyr
  2.  cyty. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021. Ni nodir enghraifft o'r enw lle.


Chwiliwch am City
yn Wiciadur.