Cirgisiaid

Oddi ar Wicipedia
Cirgisiaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig, grwp ethno-ieithog Edit this on Wikidata
MathPobl Twrcaidd, Asiaid Canol Edit this on Wikidata
MamiaithCirgiseg edit this on wikidata
Poblogaeth6,000,000 Edit this on Wikidata
Rhan oPobl Twrcaidd Edit this on Wikidata
LleoliadCanolbarth Asia Edit this on Wikidata
GwladwriaethCirgistan, Wsbecistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Rwsia, Tajicistan, Casachstan, Twrci, Affganistan, Wcráin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pobl Dyrcig o Ganolbarth Asia yw'r Cirgisiaid sydd yn byw yn bennaf yng Nghirgistan ac yn siarad yr iaith Girgiseg. Maent lleiafrifoedd ohonynt hefyd yn byw yn Affganistan, gorllewin Tsieina, Casachstan, Wsbecistan, Tajicistan, a Thwrci. Islam Sunni ydy ffydd y mwyafrif.

Hen ddarluniad o Girgisiaid (1858).

Nomadiaeth fugeiliol yw ffordd o fyw draddodiadol y Cirgisiaid. Gorchfygwyd gorllewin Tyrcestan gan Ymerodraeth Rwsia yn ystod ail hanner y 19g, a rhoddwyd tiroedd yn rhanbarth y Cirgisiaid i wladychwyr Rwsiaidd. Gwrthryfelodd y Cirgisiaid yn 1916, a chafodd degoedd o filoedd – o bosib cannoedd o filoedd – ohonynt eu lladd, a ffoes rhyw draean ohonynt dros fynyddoedd Tien Shan i Tsieina. Yn ystod cyfnod cynnar yr Undeb Sofietaidd, o 1926 i 1959, ymfudodd niferoedd mawr o Rwsiaid ac Wcreiniaid i Girgisia, a gostyngodd y gyfran o boblogaeth yr ardal a oedd yn Girgisiaid ethnig o 66% i 40%. Bu llawer ohonynt yn rhoi'r gorau i'w ffordd grwydrol o fyw ac yn amaethu neu yn symud i weithio yn y diwydiannau trymion yn y dinasoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]