Castell y Fflint

Oddi ar Wicipedia
Castell y Fflint
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1277 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Fflint Edit this on Wikidata
SirSir y Fflint
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr5.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2517°N 3.12993°W Edit this on Wikidata
Rheolir gany Goron, Cadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEdward I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganEdward I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwFL003 Edit this on Wikidata

Codwyd Castell y Fflint yn y Fflint rhwng 1277 a 1283 ar lannau Dyfrdwy gan Edward I o Loegr yn ystod ei ryfelau yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd. Roedd yn wersyll pwysig i'r lluoedd Seisnig yn ystod y rhyfelau hyn; y cyntaf yn y gadwyn o gestyll a gododd Edward ar hyd arfordir gogledd a gorllewin Cymru i warchod y tir a oresgynodd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Codwyd y rhan gwreiddiol o'r castell ar fyrder, dan ofn ymosodiad gan y Cymry, a dywedir fod tus 1,800 o ddynion wrth y gwaith o gloddio'r ffos amddiffynnol yn unig. Mae'r castell yn nodweddiadol am fod ganddo dŵr anferth ar wahân i weddill y castell. Cynlluniwyd tref fechan ar yr un pryd, wrth y castell, ar gynllun rheolaidd ac wedi'i hamgylchynu â muriau.

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr newidiodd y castell ddwylo sawl gwaith. Cafodd ei gipio'n derfynol gan luoedd y Seneddwyr yn 1646; fe'i dynwyd i lawr yn fuan ar ôl hynny. Yn y 18g adeiladwyd carchar ar y safle. Adfeilion yn unig sydd ar y safle heddiw, ond erys y tŵr yn olygfa drawiadol.

Castell y Fflint
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato