Castell Llanfair-ym-Muallt

Oddi ar Wicipedia
Castell Llanfair-ym-Muallt
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1492°N 3.3986°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR031 Edit this on Wikidata

Castell sylweddol yn Llanfair-ym-Muallt, Powys yw Castell Llanfair-ym-Muallt, a adeiladwyd ac a ailadeiladwyd sawl gwaith rhwng yr 11eg a'r 15g. Ar wahanol adegau bu ym meddiant y Normaniaid yng Nghymru, Tywysogion Gwynedd a Choron Lloegr.

Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: BR031 .[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Codwyd y castell cyntaf ar y safle, ar fryn isel yng nghanol Cantref Buellt, tua diwedd y 1090au gan y Normaniad William de Braose neu ei fab Philip. Castell mwnt a beili nodweddiadol Normanaidd oedd hwnnw. Dinistrwyd y castell gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd (1132-97) o Ddeheubarth yn y flwyddyn 1168. Cafodd ei adfer gan y teulu de Braose a'i ddefnyddio ganddynt nes iddo gael ei gipio gan y brenin John o Loegr yn 1208 a chafodd ei atgyfnerthu ar ei ran yn 1210. Daeth i feddiant Llywelyn Fawr yn 1230 fel rhan o gytundeb priodas rhwng ei fab Dafydd ap Llywelyn ac Isabella de Braose.

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn Fawr darniwyd teyrnas Dafydd gan y Saeson a syrthiodd y castell i ddwylo brenin Lloegr yn 1242. Rywbryd yn y cyfnod yma adeiladwyd y castell o gerrig, ond ni wyddys a ddigwyddodd hynny yng nghyfnod meddiant Llywelyn. Yn sicr roedd yn gastell cerrig erbyn diwedd y 1240au. Cipwyd y castell gan Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru yn 1260. Yn 1267 fe'i cipwyd oddi ar y Cymry gan y Saeson unwaith eto. Dechreuodd Edward I o Loegr ar y gwaith o godi castell newydd yno yn 1277, gan ddilyn y cynllun gwreiddiol ond gydag ychwanegiadau sylweddol o waith carreg. Yn 1282, John Giffard oedd cwnstabl y castell ar ran Edward I: mae'n bosibl y cymerodd ran yn y sgarmes y lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd ynddo yn y flwyddyn honno (gweler Cilmeri).

Pan gododd y Cymry yn erbyn y Saeson yn 1294 dan arweiniad Madog ap Llywelyn, gwarchaewyd y castell ganddynt ond roedd yn rhy gryf. Bu gwaith ychwanegol arno yn y 14g. Cofnodir gwaith atgyweirio yn 1409, efallai oherwydd niwed a gafodd yng Ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Erbyn 1534 doedd y castell ddim mewn cyflwr digonol i barhau fel amddiffynfa, yn ôl adroddiad swyddogol. Tynwyd y cerrig i gyd bron dros y blynyddoedd i godi tai ac adeiladau eraill yn y dref.

Rhan o fwnt Castell Llanfair-ym-Muallt

Mynediad[golygu | golygu cod]

Heddiw mae safle'r castell yn gorwedd ger canol Llanfair-ym-Muallt ac ar agor i'r cyhoedd.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO/CADW, 1995), tt. 158-9.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]