Canu gwlad

Oddi ar Wicipedia

Math o gerddoriaeth boblogaidd yw canu gwlad sydd â'i wreiddiau yn nhraddodiad baledi hillbilly mynyddoedd yr Appalachians yn yr Unol Daleithiau. Dylanwad arall oedd y caneuon cowboi (felly'r enw Saesneg Country and Western, er mai Country Music neu Country yw'r enw mwya ffasiynol heddiw). Mae gan ganu gwlad bwyslais ar leisiau mewn cytgord a geiriau sy'n adlewyrchu profiad y werin gyffredin. Yn aml mae'n sentimental iawn.

Sonnir heddiw am 'Ganu Gwlad Newydd' neu Progressive Country hefyd, wrth i genhedlaeth newydd chwilio am burdeb gwreiddiol y canu traddodiadol ar y naill law ac ar yr un pryd arbrofi efo thechnegau mwy diweddar, o fyd roc er enghraifft.

Mae cerddorion canu gwlad yr "hen ysgol" yn cynnwys Dolly Parton a Linda Ronstadt ac, i raddau, Emmylou Harris. Mae rhai o'r grwpiau diweddar yn cynnwys Alison Krauss ac Union Station, sydd wedi gwneud albymau gyda'i gilydd, a'r Dixie Chicks â'i harmonis anhygoel.

Yng Nghymru mae'n debyg mai y cyntaf i ganu y math hyn o gerddoriaeth oedd Aled a Reg ac yn ddiweddrach Hogiau Llandegai, Doreen Lewis a Tony ac Aloma. Mae canu gwlad yn dal yn boblogaidd iawn yng Nghymru gyda chantorion fel John ac Alun Wil Tan, Alister James, ac yn ddiweddar iawn Meinir Ann.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.