Cannabis sativa

Oddi ar Wicipedia
Cannabis sativa
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Rosales
Teulu: Cannabaceae
Genws: Cannabis
Rhywogaeth: C. sativa
Enw deuenwol
Cannabis sativa
L.
Subspecies

C. sativa ssp. sativa
C. sativa ssp. indica
C. sativa ssp. ruderalis

Planhigyn unflwydd llysieuaidd yn perthyn i'r genws Cannabis, sydd yn rhywogaeth o deulu'r Cannabaceae yw Cannabis sativa. Mae pobl wedi bod yn meithrin a defnyddio cannabis sativa trwy gydol hanes cofnodedig fel ffynhonnell ffibr (sef Cywarch), am ei hadau a'i olew, at ddifyrrwch personol, dibenion crefyddol ac ysbrydol ac at ddibenion meddygol. Mae pob rhan o'r planhigyn yn cael ei fedi mewn ffyrdd gwahanol, yn ôl ei defnydd.[1]

Defnyddir ei hadau i wneud olew cywarch a gaiff ei ddefnyddio i goginio, mewn lampau golau, i wneud farnais caled neu baent. Fe'i defnyddir hefyd i fwydo adar dof ac mae ynddynt beth maeth addas i rai adar. Yn y blodau a'r dail ceir cannabinoids a ddefnyddir i sawl pwrpas: difyrrwch a meddygol. O'u trin yn arbennig, gellir creu hashish a ysmygir, anwedd (vapour) neu ei lyncu. Yn y gorffennol, arferid eu rhoi ar tincture, mewn te perlysieuol neu ar ffurf eli. Fe'i defnyddir o fewn meddyginiaethau traddodiadol India i greu rhithbair, hypnotiaeth, fel tawelydd, i liniaru poen ac yn wrthlidiol.[2]

Cemegolion gweithredol[golygu | golygu cod]

Prif: Canabis
Δ9-tetrahydrocannabinol (THC)
Cannabis sativa, diagram o'r c1900

Er mai'r prif gemegolyn gweithredol yw Tetrahydrocannabinol (neu CTH), mae dros 60 o gemegolion eraill (neu cannabinoids) yn y planhigyn; prin iawn yw rhai o'r rhain, fodd bynnag. Ceir cemegolyn arall eitha uchel ei lefel, sef CBD. Oherwydd y gwahanol lefelau o'r gwahanol gemegolion, ac oherwydd fod pob corff dynol yn wahanol, mae effaith Cannabis sativa yn wahanol o berson i berson.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Greg Green, The Cannabis Breeder's Bible, Green Candy Press, 2005,tt. 15-16 ISBN 9781931160278
  2. Wang L, Waltenberger B, Pferschy-Wenzig EM, Blunder M, Liu X, Malainer C, Blazevic T, Schwaiger S, Rollinger JM, Heiss EH, Schuster D, Kopp B, Bauer R, Stuppner H, Dirsch VM, Atanasov AG. Natural product agonists of peroxisome proliferator-activated receptor gamma (PPARγ): a review. Biochem Pharmacol. 2014 Jul 29. pii: S0006-2952(14)00424-9. doi: 10.1016/j.bcp.2014.07.018. PubMed PMID 25083916.