Camlas

Oddi ar Wicipedia
Camlas
Enghraifft o'r canlynolmath o afon Edit this on Wikidata
Mathadeiladwaith hydrolig, corff dŵr artiffisial, adeiladwaith llinol, cwrs dŵr, isadeiledd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysloc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lociau Miraflores ar Gamlas Panama

Dyfrffordd wedi ei gwneud gan ddyn rhwng llynnoedd, afonydd neu foroedd yw camlas. Pwrpas camlas yw cludo nwyddau neu bobl mewn cwch neu long. Mae camlesi hefyd yn cael eu creu er mwyn dod â dŵr i ddyfrhau tiroedd sychion. Mae rhai pobl yn byw mewn cychod ar gamlesi.

Yng Ngorllewin Ewrop roedd camlesi yn bwysig iawn cyn dyfodiad y rheilffyrdd adeg y Chwyldro Diwydiannol ond pan ddaeth y rheilffyrdd collasant eu pwysigrwydd, a defnyddiwyd llawer ohonynt fel llwybr i'r rheilffordd ar ôl ailgyfeirio'r dŵr.

Gyda tyfiant twristiaeth defnyddir cychod ar gamlesi fel lle i ymwelwyr gysgu ac aros ynddynt tra yn teithio ar hyd y gamlas. Ond mewn rhai gwledydd, e.e. yn Tsieina a De-ddwyrain Asia, mae nifer o bobl yn dal i fyw a gweithio ar eu cychod ar y camlesi.

Camlesi Enwog[golygu | golygu cod]

Camlesi Cymru[golygu | golygu cod]

Y gamlas gyntaf i'w hadeiladu yng Nghymru oedd Camlas Morgannwg. Dechreuwyd ei hadeiladu yn 1790 ac fe'i hagorwyd yn 1794. Roedd hon, fel nifer o'r camlesi, yn allweddol i gludo haearn a glo i borthladdoedd Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe. Cyn hyn yr unig ffordd i'w cludo oedd gyda merlod a cheffylau. Roedd y cymoedd serth yn ei gwneud yn anodd i gloddio'r camlesi yng Nghymru.