Cais

Oddi ar Wicipedia
Mae Shaun Perry yn sgorio cais

Mewn gêm rygbi'r undeb neu rygbi'r gynghrair, cais yw'r prif ffordd o sgorio pwyntiau. Sgorir cais drwy osod y bêl ar y llawr ar linell gôl y gwrthwynebwyr neu du hwnt iddo. Daw'r term cais o'r syniad o geisio sgorio gôl, sy'n awgrymu yn wreiddiol fod gosod y bel ar y llawr dim ond yn rhoi'r cyfle i geisio sgorio drwy gicio at y gôl.

Gwerth cais mewn pwyntiau[golygu | golygu cod]

Ers 1983, yn rygbi'r gynghrair, mae cais yn gyfwerth i bedwar pwynt. Cyn hynny, arferai cais fod yn werth tri phwynt. Yn rygbi'r undeb, mae cais yn werth pump o bwyntiau; mae gwerth cais o ran y nifer o bwyntiau wedi amrywio dros amser. Er fod cais yn werth llai o bwyntiau yn rygbi'r gynghrair, dyma'r prif ffordd o sgorio gan amlaf. Yn rygbi'r undeb fodd bynnag mae ennill pwyntiau'n dibynnu'n helaeth ar gôlau.

Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am cais
yn Wiciadur.