Caer Drewyn

Oddi ar Wicipedia
Caer Drewyn
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig, bryngaer sy'n dilyn y llethr, bryngaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9892°N 3.3601°W, 52.989258°N 3.36024°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0876544395 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME012 Edit this on Wikidata

Bryngaer o Oes yr Haearn 1 filltir i'r gogledd o Gorwen yn ne Sir Ddinbych yw Caer Drewyn (weithiau Caer Drewin). Fe'i lleolir ar fryn uwchlaw Dyffryn Edeirnion ar uchder o tua 280 medr. Wrth waelod y gaer mae cymuned fechan Pentre Trewyn - cyfeiriad grid SJ087444.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME012.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Rhed Afon Dyfrdwy islaw. O safle'r fyngaer ceir golygfeydd eang o Ddyffryn Edeirnion ac o'r mynyddoedd i'r gorllewin a'r gogledd.

Disgrifiad a hanes[golygu | golygu cod]

Caer Drewyn

Mae'r llwybr i fyny'r dyffryn wedi bod yn dramwyfa bwysig ers gwawr hanes a diau fod lleoliad strategol y gaer fawr hon, ar drofa yn y dyffryn, yn adlewyrchu hynny. Mae'r gaer yn gorwedd ar y ffin rhwng tiriogaeth y Deceangli i'r gogledd a'r Ordovices i'r de.[2]

Mae'r fryngaer yn safle cymhleth. Tybir fod o leiaf pedwar cyfnod o adeiladau ar y safle. I ddechrau roedd 'na glawdd pridd siap bedol yn terfynu ar glogwyn i'r gogledd. Mae rhan o'r gwaith hwn yn aros heddiw fel atodiad i'r brif gaer ar ei hochr ddwyreiniol. Mae'n bosibl fod hyn yn dyddio i ddiwedd Oes y Cerrig.[3]

Mae'r gaer ddiweddarach yn cynnwys gwrthglawdd anferth o gerrig gyda mynedfeydd ar yr ochr orllewinol a'r ochr gogledd-ddwyreiniol. Ceir celloedd i warchod ygaer wedi'u hailadeiladu ym mynedfa'r gogledd-ddwyrain. Roedd llwybr o gwmpas y muriau. Rhed ffos ddofn oddi amgylch y cyfan. Mae'r gwaith hwn yn debyg iawn i'r hyn a geir ym mryngaer fawr Tre'r Ceiri a lleoedd eraill yn Llŷn.

Yn ddiweddarach ychwanegwyd clostir trionglog, yn ôl pob tebyg yn ystod y cyfnod Rhufeinig neu'n fuan ar ôl hynny. Ceir gweddillion cytiau crwn o gerrig tu mewn; ceir olion sy'n awgrymu adeiladau petrual ar bedwar postyn yn ogystal. Yn y gornel ogledd-ddwyreiniol gwelir olion llwyfannau tai.[3]

Yn ddiweddarach eto codwyd tai bychain canoloesol ar lwyfannau wrth fynedfa orllewinol y fryngaer, ond nid oes unrhyw dystiolaeth fod y gaer ei hun yn cael ei defnyddio yn y cyfnod hwnnw.

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Yn ôl T. Gwynn Jones roedd chwedl werin yn ardal Corwen yn adrodd sut y bu i gawr godi Caer Drewyn er mwyn i'w gariadferch gael lle i gadw ei gwartheg a'u godro. Enwir y cawr fel 'Drewyn', ond ymddengys mai cais i esbonio enw'r gaer ydyw (mae 'Drewyn' yn dreigliad o 'Trewyn'). Mae T. Gwynn Jones yn cynnig fod yr enw 'Tre Wyn', sef 'Tre Gwyn', yn deillio o draddodiad lleol am y duw Celtaidd Gwyn ap Nudd.[4]

Mae traddodiadau yn ardal Corwen yn cysylltu Caer Drewyn ag Owain Glyndŵr yn ogystal. Cyfeiria Thomas Pennant at Glyn Dŵr yn encilio i'r gaer ar ôl ymosod ar Ruthun. Mae trigolion lleol yn dal i gysylltu'r gaer ag Owain heddiw, gan gredu ei fod wedi mwstrio ei ryfelwyr yno.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. *Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978).
  3. 3.0 3.1 *A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965).
  4. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (Llundain, 1930), tud. 78.
  5. Elissa R. Henken, National Redeemer: Owain Glyndŵr in Welsh Tradition (Caerdydd, 1996).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]