Cadell ap Rhodri

Oddi ar Wicipedia
Cadell ap Rhodri
Ganwyd854 Edit this on Wikidata
Bu farw909 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddSeisyllwg Edit this on Wikidata
TadRhodri Mawr Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Meurig Edit this on Wikidata
PlantHywel Dda, Clydog ap Cadell Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Dinefwr Edit this on Wikidata

Roedd Cadell ap Rhodri (bu farw 909) yn frenin Seisyllwg yn ne-orllewin Cymru.

Roedd Cadell yn fab i Rhodri Mawr. Ar farwolaeth ei dad yn 878 etifeddodd Seisyllwg, ac yn 904/905 cipiodd Deyrnas Dyfed a rhoddodd hi i'w fab, Hywel Dda, i'w rheoli. Pan fu farw Cadell yn 909, unodd Hywel y ddwy deyrnas i greu teyrnas Deheubarth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]