C.P.D. Llandudno

Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Llandudno
Enw llawn Clwb Pêl-droed Llandudno
Sefydlwyd 1878
Maes Parc Maes Du, Llandudno
Rheolwr Sean Eardley
Cynghrair Cymru North
2022/23 3.

Clwb pêl-droed o Landudno, Sir Conwy ydy Clwb Pêl-droed Llandudno (Saesneg: Llandudno Football Club).

Mae lle i gredu fod clwb pêl-droed yn bodoli yn Llandudno ym 1878, ac er fod y llinach i'r clwb presennol yn aneglur, mae'r clwb yn cydnabod 1878 fel y blwyddyn y cafodd ei ffurfio[1].

Chwaraeir eu gemau cartref ym Mharc Maesdu, Llandudno.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd clybiau pêl-droed yn bodoli yn nhref Llandudno yn ystod y 1880au gyda Llandudno Gloddaeth yn cystadlu yng Nghwpan Cymru ym 1886-87[2] a chlwb Llandudno Swifts yn aelodau gwreiddiol Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru ym 1893-94[3].

Roedd CPD Llandudno yn aelodau o gynghrair Arfordir Gogledd Cymru ym 1901-02[4] a hefyd yn aelodau gwreiddiol Cynghrair Cenedlaethol Cymru (Gogledd) ym 1921 hyd nes i'r Gynghrair ddod i ben ym 1930. Llwyddodd y clwb i ennill pencampwriaeth cyntaf Cynghrair Cymru (Gogledd) ym 1935-36[5] a heb law am flynyddoedd yr Ail Ryfel Byd, bu'r clwb yn chwarae yn y gynghrair yma hyd nes cwympo i Gynghrair Bro Conwy ym 1973-74.

Ailffurfiwyd y clwb ym 1988 a dychwelodd Llandudno i brif adran gogledd Cymru, y Gynghrair Unebol ym 1993-94[6] gan sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2014-15. Ar ôl gorffen yn drydydd yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair llwyddodd Llandudno i sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa am y tro cyntar ar gyfer tymor 2016-17.

Record yn Ewrop[golygu | golygu cod]

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2016–17 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Sweden IFK Göteborg 0–5 1-2 1–7

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Llandudno FC: History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1886-87". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Football Data Archive:North Wales Coast League 1893-94". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh Football Data Archive:North Wales Coast League 1901-02". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Welsh Football Data Archive:Welsh League (North) 1935-36". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Welsh Football Data Archive:Cymru Alliance 1993-94". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "TALENT YN MYNU EI FFORDD - Papur Pawb". Daniel Rees. 1897-04-24. Cyrchwyd 2020-02-28.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd