Bwlchgwyn

Oddi ar Wicipedia
Bwlch-gwyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,148 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0722°N 3.0986°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ264533 Edit this on Wikidata
Cod postLL11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Brymbo, bwrdeisdref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bwlchgwyn (hefyd Bwlch Gwyn). Saif ar ffordd yr A525, 5 milltir i'r gorllewin o dref Wrecsam a 10 milltir i'r dwyrain o Ruthun. Mae oddeutu dwy filltir o bentref Mwynglawdd ac yn ffinio â Rhostir Llandegla. 1148 oedd poblogaeth y pentre yn ôl Cyfrifiad 2001.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Efallai bod enw y pentref yn tarddu o glogwynau calchfaen yr ardal, neu efallai o'r carped o eira sydd yn debyg o orwedd dros y pentref yn y gaeaf. Posibilrwydd arall yw mai'r enw gwreiddiol oedd 'Bwlchgwynt'.

Arwydd ar gyrion Bwlchgwyn

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Hawlir gan arwyddion ar ffin y pentref mai Bwlchgwyn ydy'r pentref uchaf yng Nghymru. Yn ôl yr Arolwg Ordnans, Trefil, Blaenau Gwent yw'r pentref uchaf yng Nghymru, Garn yr Erw, Torfaen yn ail, a Bwlchgwyn yn drydydd. Mae Bwlchgwyn yn 1167 troedfedd (356 medr) uwchben lefel y môr[3], sydd yn effeithio ar yr hinsawdd leol yn arw. Saif y pentre ar dywodfaen o'r Oes Carbonifferaidd, sy'n cynnwys plwm.

O'r gulfan lle lleolir cofeb rhyfel y pentref fe welir gwastatir Swydd Gaer i'r dwyrain, ac i'r gorllewin, Bryniau Clwyd, yn benodol Moel Fenlli a Moel Famau. Enw lleol am y gulfan yw 'Y Drofa'. Mae tarddiad Afon Gwenfro i'r de o Fwlchgwyn. Tarddir dwy afon arall a'r rhostir i'r gorllewin, un sydd yn llifo trwy Nant y Ffrith, i'r gogledd y pentref ac yn ymuno ag Afon Cegidog yn Ffrith, a'r llall, Afon Clywedog, sy'n llifo i'r de o Fwlchgwyn cyn iddi ymuno ag Afon Dyfrdwy.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd yna fryngaer o Oes yr Efydd yno, ond fe'i dinistriwyd gan waith chwarelu. Roedd hefyd ffordd Rhufeinig i fyny o Ffrith at Landegla.

Tyfodd y pentref yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Rhoddwyd cyflogaeth sylweddol gan chwareli a phyllau glo lleol. Cyflogwr mwya'r ardal oedd Gwaith Calch Y Mwynglawdd hyd at y saithdegau, pan gaeodd y chwarel.

Roedd sawl tafarn yn yr ardal; dim ond dau sy'n weddill; Y 'King's Head' (sydd dan fygwth o gau yn weddol aml rŵan) a'r 'Moors Inn' (Y 'Four Crosses cynt). Roedd yn bedwar capel; Nebo, Salem, Peniel a Bethesda. Dymchwelwyd Salem a Bethesda; Trowyd Peniel a Nebo yn dai. Mae Eglwys y Pentref wedi goroesi hyd at heddiw.

Agorwyd yr ysgol wreiddiol ym 1875. Roedd Edward Tegla Davies yn ddisgybl ac yn hwyrach yn athro yn yr ysgol.

Mae cofeb yn y drofa i griw awyren Armstrong Whitworth Whitley y collwyd gerllaw ym 1943.

Y gofeb i awyren a chriw ym 1943

Heddiw[golygu | golygu cod]

Y pentref o gyfeiriad Y Mwynglawdd (Minera)

Adeiladwyd ysgol gynradd newydd ar Ffordd Brymbo erbyn hyn, efo tua chant o ddysgyblion, gan gynnwys y rhai sy'n mynychu'r ysgol feithrin. Mae'n debyg bod gan Fwlchgwyn y Dojo uchaf yng Nghymru, sy'n cyfarfod yn nghanolfan gymuned y pentref. Mae'r ganolfan yn un brysur iawn, yn cynnig pob math o ddigwyddiadau, gan gynnwys garddio, chwarae bowls, clwb cinio a chlinic ar gyfer babanod. Mae cwmni bws George Edwards and Son yn seiliedig yn y pentref.

Mae D.Jones a'i Fab yn cynnig gwasanaeth bws (Rhif 10) o Fwlchgwyn i Wrecsam yn ystod y dydd. Mae'r wasanaeth yn estyn (gyda Bysiau GHA) trwy Wrecsam i Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn y noswaith (rhifau 141, 142). Mae GHA hefyd yn cynnig gwasanaeth bob awr rhwng Wrecsam, Rhuthun, a Dinbych yn ystod y dydd (Rhif X51).

Tywydd[golygu | golygu cod]

Mae cyfuniad y nodweddion daearyddol o gympas – Eryri i'r gorllewin, y gwastatir Swydd Gaer i'r dwyrain, y Môr Iwerddon a Bae Lerpwl i'r gogledd, ac yn agosach, Nant y Ffrith yn swatio yn y Bryniau Clwyd – yn creu hinsawdd newidiol. Oherwydd uchder y pentref, mae'n tueddu i fod yn 2 neu 3 gradd Celsius yn oerach na Wrecsam, er gyda nos, o dan wybren glir a gwynt ysgafn, gall y gwrthwyneb fod yn wir, pan mae awyr oer yn suddo i waelod y dyffryn. Pan ffurfir niwl pelydriad, gall y pentref fod uwchben y niwl mewn awyr glir. Yn ystod gwlybaniaeth mwy gyffredinol, mae Bwlchgwyn yn debygol o fod yn y cwmwl isel a symuda heibio'n gyflym weithiau. Daw gwyntoedd cryfach o'r gorllewin, a gallu cael grym storm. Pan ddaw gwynt o'r gorllewin, mae Bwlchgwyn yng nghysgod glaw Eryri, ac felly mae'n debyg bod cawodydd yn ysgafn. Mae'r gwrthwyneb yn wir pan ddaw gwlybaniaeth o'r ddwyrain, a gall eira mawr yn cyrraedd y pentref. A pan mae'r gwynt yn dod o'r gogledd-orllewin yn y gaeaf, mae awyr oer dros fôr cymharol o gynnes yn gallu achosi mwy o eira neu genllysg.

Oriel[golygu | golygu cod]

Bywyd gwyllt[golygu | golygu cod]

Gwelir cymysgedd o adar ar ymylon y pentref. Yn ogystal â’r adar cynhenid arferol, magis robin goch, a titw tomas las, gwelir adar ysglyfaethus megis Cudyll coch a Boncath a hefyd adar sydd ar fudiad tymhorol, megis Adain Coch a Socan yr Eira.

Adar[golygu | golygu cod]

Pili palod[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]