Bugail

Oddi ar Wicipedia
Bugail
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathheusor Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bugail ym Mynyddoedd Făgăraş, Romania.

Person sy'n bwydo, gwarchod a gofalu am ddefaid neu eifr yw bugail (benywaidd: bugeiles), yn enwedig mewn praidd. Gall y gair hefyd gyfeirio at rywun sy'n cynnig arweiniad crefyddol, megis Gweinidog yr Efengyl.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae bugeilio yn un o'r galwedigaethau hynaf, a dechreuodd tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl yn Asia Leiaf. Cadwyd defaid ar gyfer eu llefrith, cig, a'u gwlân yn arbennig. Daeth defaid a bugeiliaid yn gyffredin ar draws Ewrasia dros y miloedd o flynyddoedd a ddilynodd.

Cafodd rhai defaid eu cyfuno yn y fferm deuluol gydag anifeiliaid eraill megis moch ac ieir. Ond, er mwyn cynnal praidd mawr o ddefaid neu eifr, rhaid eu symud o un borfa i'r llall, ac felly datblygodd galwedigaeth y bugail yn ogystal ag ar wahân i ffermwr; mewn rhai llefydd arweiniodd hyn at grwpiau cyfan o bobl yn dilyn bywyd bugeiliol nomadig neu led-nomadig a cheir llwythau bugeiliol Nomadaidd o hyd mewn lleoedd fel Canolbarth Asia ac Iran. Swyddogaeth bugail yw cadw'r praidd gyda'i gilydd a'i amddiffyn rhag bleiddiau ac ysglyfaethwyr eraill. Rhaid i'r bugail oruchwylio symudiad y praidd, a chadarnhau ei fod yn cyrraedd ardal marchnad mewn pryd ar gyfer cneifio. Bu'n gyffredin i fugail odro defaid neu eifr a chynhyrchu caws gyda'r llefrith; ond dim ond ychydig iawn o fugeiliaid sy'n gwneud hyn erbyn heddiw yn y Gorllewin.

Les Bergers d’Arcadie (Bugeiliaid Arcadia) gan Nicolas Poussin

Roedd bugeiliaid yn rhan bwysig o'r economi mewn nifer o gymdeithasau; gan eu bod yn gwylio defaid ar gyfer eraill roeddent yn ennill cyflog, yn hytrach na chynnal eu hunain fel ffermwyr. Roedd bugeiliaid yn bobl grwydrol fel rheol, ac felly roedd yn swydd ar gyfer dynion sengl di-blant, nid oeddent yn rhan o gymdeithas ac felly roedd yn rhaid recriwtio bugeiliaid yn allanol. Yn aml, roedd bugeiliaid yn feibion ifengaf i werinwyr a oedd yn ffermio, ac felly nid oeddent yn etifeddu tir. Ond mewn rhai cymdeithasau, roedd gan bob teulu un aelod a oedd yn gyfrifol am fugeilio, plentyn neu aelod hŷn o'r teulu nad oedd yn gallu rhoi cymorth gyda'r gwaith caletach ar y fferm; roedd y bugeiliaid hyn yn rhan o'r gymdeithas.

Roedd bugeiliaid yn gweithio mewn grŵp fel arfer, yn edrych ar ôl praidd mawr, neu yn cyfuno sawl praidd bach er mwyn rhannu'r gwaith a'r cyfrifoldeb. Weithiau buont yn byw mewn cytiau, neu'n rhannu lle cysgu gyda'r defaid, a phrynu eu bwyd gan gymunedau lleol. Yn llai cyffredin, roedd bugeiliaid yn byw mewn cert a oedd yn teithio gyda'r praidd.

Dim ond mewn rhai ardaloedd y datblygodd bugeilio. Roedd yn fwy effeithlon i dyfu grawn yn hytrach na phori defaid yn yr iseldiroedd a'r dyffrynnoedd, felly cadwyd defaid yn yr ardaloedd mynyddig garw. Cyn yr oes bresennol, dim ond mewn ardaloedd megis Israel, Gwlad Roeg, y Pyrenees, Mynyddoedd Carpathia, Cymru a'r Alban yr oedd cadw defaid yn beth cyffredin.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.