Brwydr Caer

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Caer
Mathbrwydr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolanheddiad Anglo-Sacsonaidd Edit this on Wikidata
LleoliadCaer Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.1675°N 2.8856°W Edit this on Wikidata
Map
Cyfnodc. 615 Edit this on Wikidata
Brwydrau yng Nghymru: Cyfnod y Sacsoniaid


Ymladdwyd Brwydr Caer tua'r flwyddyn 615 neu 616 (mae'r union ddydiad yn amrywio yn ôl y ffynhonnell) ger safle dinas Caer (yng ngogledd-orllewin Lloegr heddiw).

Ffynonellau hanesyddol[golygu | golygu cod]

Cyfeirir at y frwydr yng ngwaith Beda (yr Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum) ac yn Nghronicl yr Eingl-Sacsoniaid. Ceir cyfeiriad moel yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 613: Gueith Cair Legion, et ibi cecidit Selim filii Cinan, "Gwaith (Brwydr) Caer Leon; ac yno syrthiodd Selyf fab Cynan".

Cyfeiria un o Drioedd Ynys Prydain at Waith Perllan Fangor (Brwydr Perllan Bangor) a'r Cymry a Saeson a ymladdodd yno:

Tri Phorthawr Gweith Perllan Fangor:
Gwgon Gleddyfrudd,
A Madawg ap Rhun,
A Gwiawn ap Cyndrwyn.
A thri ereill o bleid Lloegyr:
Hafystyl Drahawg
a Gwaetcym Herwuden
a Gwiner.
(Trioedd Ynys Prydein 60, yr orgraff wedi'i ddiweddaru)

Mae'r ffynhonnell yn bur ddiweddar (15g), ond mae'r triawd yn gynharach. Mae Rachel Bromwich yn dalau fod y chwe "phorthor" yn cyfeirio at y rhyfelwyr ar y ddwy ochr a ddaliai'r mynedfeydd i'r berllan (dyma'r unig gyfeiriad at y frwydr yn cael ei hymladd mewn perllan). Mae enwau'r Cymry'n ddiddorol. Roedd Gwgon Gleddyfrudd a Madog ap Rhun yn ddeiliaid i frenin Powys a chyfoeswyr i Selyf ap Cynan (gweler isod). Mae'r Saeson a enwir yn anhysbys.

Mae Sieffre o Fynwy yn cyfeirio at y frwydr yn ei Historia Regum Britanniae ac yn honni fod y tywysogion Cymreig wedi ymosod ar y gelyn yn fuan ar ôl y frwydr ac ennill y dydd, ond nid oes tystiolaeth arall am hynny ac ystyrir llyfr Sieffre yn ffugwaith, er ei fod yn tynnu ar rai traddodiadau Cymreig dilys.

Y frwydr[golygu | golygu cod]

Roedd yn frwydr dyngedfennol i'r Brythoniaid. Collwyd y dydd gan y Brythoniaid, a arweinwyd gan y brenin Selyf ap Cynan, mab Cynan Garwyn, o Bowys a Brochwel ap Cyngen yn erbyn byddin gref Æthelfrith, brenin Brynaich a Deifr (Northumbria). Lladdwyd 1200 o fynachod Bangor Is-Coed gan y Saeson naill ai cyn y frwydr neu yn ystod yr ymladd (yn ôl un traddodiad roedd y mynachod yno i lafarganu er gofyn buddugoliaeth i'r Brythoniaid); rhoddwyd yr enw "Cyflafan y Saint" ar y drychineb. Syrthiodd Selyf ei hun a nifer o'i ryfelwyr yn y frwydr hefyd ond ymddengys i Frochwel ddianc.

Ymysg canlyniadau'r frwydr oedd i Frythoniaid Cymru a de-ddwyrain Prydain (Cernyw) gael eu gwahanu fwyfwy o'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • T.D. Brereton, The Book of Welsh Saints (Glyn Dŵr Publications, 2000)
  • Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1978). Gw. tt. 173-4 a thriawd 60.
  • John Morris (gol.), Nennius (Llundain, 1980)