British Cycling

Oddi ar Wicipedia
British Cycling
Enghraifft o'r canlynolcorff llywodraethu chwaraeon Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1959 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean Cycling Union, Union Cycliste Internationale Edit this on Wikidata
PencadlysManchester Velodrome Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.britishcycling.org.uk/ Edit this on Wikidata
Logo British Cycling

Corff llywodraethu rasio beics ym Mhrydain ydy British Cycling (BC yn fyr, adnabyddwyd gynt odan yr enw British Cycling Federation neu BCF). Mae'r ffederasiwn yn aelod o'r UCI a'r UEC.

British Cycling sy'n rheoli'r rhanfwyaf o seiclo cystadleuol ym Mhrydain, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; gan gynnwys disgyblaethau rasio ffordd, trac, cyclo-cross, BMX, beicio mynydd (gan gynnwys reidio treialon), cycle speedway, anc, yn Yr Alban, Treialon Amser. Yr eithriad pennaf yw treialon amser ar y ffordd yn Lloegr a Chymru, sydd wedi eu gweinyddu gan gorff y Cycling Time Trials (CTT).

Rheolir seiclo yng Ngogledd Iwerddon gan Cycling Ireland.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y British Cycling Federation (BCF) yn 1959 gan gyfuniad o'r National Cyclists' Union (NCU) a'r British League of Racing Cyclists (BLRC). CYmerodd y BCF drosodd, adnabyddiaeth rhyngwladol yr NCU gan yr UCI.

Yn ddiweddar, mae'r BCF hefyd wedi cyfuno gyda'r 'British Cyclo-Cross Association' (BCCA), y 'British Mountain Bike Federation' (BMBF), 'English BMX Association' (EBA), a'r 'British Cycle Speedway Council' (BCSC). Daeth pob corff yn gomisiynau o fewn y BCF.

Cyrff cenedlaethol a rhanbarthol[golygu | golygu cod]

Gwlad neu diriogaeth Corff rheolaethol
Baner Lloegr Lloegr dim corff llywodraethu rhanbarthol
Baner Yr Alban Yr Alban Scottish Cycling
Baner Cymru Cymru Beicio Cymru
Baner Ynys Manaw Ynys Manaw Isle of Man Cycling Association
Baner Gibraltar Gibraltar Gibraltar Cycling Association
Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon Cycling Ulster (rhan o Cycling Ireland)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]