Bow Street

Oddi ar Wicipedia
Bow Street
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4419°N 4.0286°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN6284 Edit this on Wikidata
Cod postSY24 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng nghymuned Tirymynach, Ceredigion, yw Bow Street ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Yn ôl rhai awdurdodau 'Nantafallen' neu 'Nantyfallen' oedd hen enw'r gymdogaeth, ond 'Bow Street' yw'r unig enw arni heddiw (does dim fersiwn Cymraeg).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

O ganol y pentref mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach Clarach a Bae Clarach ar yr arfordir, ar y ffordd i'r Borth. I'r de mae Comins Coch ac i'r dwyrain Plas Gogerddan. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad Rhaeadr Gwy. Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhydypennau.

Mae'r pentref bellach yn bentref gymudo i bobl sy'n gweithio yn Aberystwyth.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Gorsaf reilffordd Bow Street[golygu | golygu cod]

Agorwyd gorsaf reilffordd Bow Street yn 1876 ond caewyd hi fel rhan o doriadau Beeching yn 1965. Wedi pwysau lleol, ceir cynlluniau i'w hail-agor ym Mawrth 2020.

Tîm Pêl-droed[golygu | golygu cod]

Mae gan Bow Street ei thîm pêl-droed. Mae timau Clwb Pêl-droed Bow Street yn gwisgo crysau du a gwyn streipiog, yn debyg i grys Newcastle United. O'r herwydd llysenw y tîm yw 'Y Piod'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]