Blaidd

Oddi ar Wicipedia
Blaidd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Canidae
Genws: Canis
Rhywogaeth: C. lupus
Enw deuenwol
Canis lupus
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad y Blaidd. Gwyrdd:dosbarthiad heddiw; Coch:dosbarthiad hanesyddol.

Mamal o'r teulu Canidae yw'r Blaidd (Canis lupus). Y Blaidd yw'r aelod mwyaf o'r teulu, 0.6 hyd 0.9 medr (26–36 modfedd) o daldra wrth yr ysgwydd, ac yn pwyso rhwng 32 a 62 kilogram (70–135 pwys). Dangoswyd trwy astudiaethau DNA fod y ci yn perthyn yn agos i'r blaidd, ac yn cael ei roi yn yr un rhywogaeth Canis lupus; ystyrir y ci fel yr is-rywogaeth C. lupus familiaris.

Ar un adeg roedd y blaidd yn gyffredin dros y rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd America, ond mae hela a difrodi yr amgylchedd wedi gostwng ei niferoedd yn sylweddol. Credir fod y boblogaeth fwyaf yn Kazakhstan, sydd a tua 90,000, a Canada (tua 60,000). Credir i'r blaidd olaf yng Nghymru gael ei ladd rywbryd tua dechrau'r 16g, er nad oes sicrwydd o hyn. Diflannodd bleiddiaid yr Alban ac Iwerddon yn ystod y 18g.

Ymlediad yn Ewrop[golygu | golygu cod]

Ffrainc[golygu | golygu cod]

O 2021 ymlaen, amcangyfrifir bod y boblogaeth genedlaethol tua 580 o unigolion ledled y wlad ac mae'r rhywogaeth yn parhau i ledaenu i'r gogledd-orllewin. Daeth tystiolaeth flaenorol i awgrymu bod bleiddiaid yn dechrau ail-gytrefu i orllewin Ffrainc ym mis Hydref 2021, pan ddarganfuwyd un yn farw yn Loire-Atlantique, ar ôl dioddef damwain ffordd.

Yn Llydaw cafodd anifail ei ffilmio gan drap camera yng nghwmwd Berrien, sydd wedi'i leoli ym Mynyddoedd Arrée, ar 3 Mai 2022. Gorwedd Berrien rhyw 45 km i'r dwyrain o Brest , yn adran ogledd-orllewinol Penn-ar-Bed .

Cafodd y blaidd ei alltudio o wlad Llydaw yn gynnar yn yr 20fed ganrif oherwydd pwysau hela, ac fe'i collwyd yn ddiweddarach o Ffrainc gyfan. Fodd bynnag, wrth i erledigaeth leddfu, ail-gytrefodd y cŵn yn naturiol wrth i unigolion symud i dde Ffrainc o'r Eidal trwy'r Alpau yn gynnar yn y 1990au[1]

Symbolaeth a mytholeg[golygu | golygu cod]

Rhoddir lle pwysig i'r blaidd mewn mytholeg a llên gwerin; er enghraifft yr hanes am Romulus, sefydlydd dinas Rhufain, a'i efaill Remus yn cael eu magu gan fleiddast pan yn blant. Ym mytholeg Llychlyn, ar ddiwedd y byd bydd Odin yn arwain y duwiau da yn erbyn lluoedd y fall ac yn ymladd â'r blaidd ofnadwy Fenris i amddiffyn Asgard. Yn chwedl Math fab Mathonwy mae Math yn cosbi Gwydion fab Dôn a'i frawd Gilfaethwy fab Dôn am dreisio Goewin a dechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Deheubarth trwy eu troi yn flaidd a bleiddast am flwyddyn. Dychwelant gyda mab a gaiff ei fedyddio gyda'r enw Bleiddwn.

Cysylltir y blaidd yn aml a seintiau; er enghraifft y chwedl adnabyddus am Sant Ffransis o Assisi yn dofi blaidd oedd wedi bod yn ddychryn i ddinas Gubbio. Yng Nghymru, dywedir fod gan y sant Brynach Wyddel flaidd dof oedd yn gwarchod ei fuwch.

Roedd y blaidd hefyd yn symbol o ffyrnigrwydd, ac o'r herwydd byddai'r enw "Blaidd" yn cael ei roi i ryfelwyr, er enghraifft Rhirid Flaidd yng Nghymru. Ceir "blaidd" neu "bleiddast" mewn llawer o enwau lleoedd yng Nghymru, er enghraifft Casblaidd yn Sir Benfro.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am blaidd
yn Wiciadur.
  1. Cylchgrawn Bird Guides[1] 12 Mai 2022