Bethan Gwanas

Oddi ar Wicipedia
Bethan Gwanas
Ganwyd16 Ionawr 1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Awdures boblogaidd sy'n ysgrifennu yn Gymraeg yw Bethan "Gwanas" Evans (ganed 16 Ionawr 1962). Daeth i amlygrwydd yn bennaf yn sgil llwyddiant addasiad teledu o'i nofel am dîm rygbi merched, Amdani!. Mae'n ysgrifennu i oedolion, i blant ac i ddysgwyr ac wedi cyhoeddi dros 28 o weithiau.[1] Mae hefyd wedi bod yn gwneud gwaith teledu, gan gynnwys cyflwyno "Byw yn yr Ardd", "Tyfu Pobl" a "Gwanas i Gbara" ar S4C.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Fe'i magwyd ar fferm Gwanas yn y Brithdir, ger Dolgellau. Tra'n ifanc, roedd hi'n hoff o ddarllen; dywedai mai Enid Blyton oedd un o'i hoff awduron tra'n blentyn. Wedi'i haddysgu yn Ysgol y Gader, Dolgellau, aeth ymlaen i raddio mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ym 1985 enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd, pan oedd yn athrawes Saesneg gyda VSO yn Nigeria. Wedi dwy flynedd gyda Radio Cymru aeth i Fangor i wneud cwrs ymarfer dysgu, ac yna dysgu Ffrangeg yn Ysgol Tryfan ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Symudodd ymlaen i fod yn ddirprwy bennaeth Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, ac yna'n hyrwyddwr llenyddiaeth i Gyngor Gwynedd. Yn 2003, daeth yn awdures llawn amser.[2]

Ei chefndir proffesiynol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd ei llyfrau cyntaf, sef nofel Amdani! a Dyddiadur Gbara, cofnod ffeithiol o'i phrofiadau o weithio gyda VSO yn Nigeria, ym 1997. Ers hynny, mae llawer o'i gweithiau wedi'u darlledu ar y radio ac ar y teledu, ac addaswyd ei nofel Amdani! yn gyfres deledu ar S4C. Bethan ysgrifennodd y tair cyfres gyntaf. Yn sgil llwyddiant Amdani! ysgrifennwyd drama lwyfan hefyd (a ysgrifennwyd gyda Script Cymru, ac a oedd yn cynnwys cerddoriaeth a chaneuon). Derbyniodd Sgript Cymru Wobr Datblygiad Cynulleidfa ACW am waith trwy gyfrwng y Gymraeg.

Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith am Ffuglen Gorau'r Flwyddyn sef Llinyn Trôns a Sgôr). Dyfernir y wobr hon yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Cyrhaeddodd ei nofel Hi Yw fy Ffrind y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.

Hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T. Llew Jones yn 2013.

Mae un o'i nofelau plant mwyaf poblogaidd Pen dafad wedi ei chyfieithu i'r Saesneg dan yr enw Ramboy, a'i nofel oedolion Gwrach y Gwyllt i Sorbeg Uchaf.

Yng Ngorffennaf 2017 daeth yn Olygydd Projectau arbennig i oedolion ifanc gyda Gwasg Gomer.[3]

Gwaith Cyhoeddedig[golygu | golygu cod]

Teitl Blwyddyn Nodiadau
Amdani! 1997 ei llyfr cyntaf dan yr enw Bethan Evans; nofel am dîm rygbi merched, a ddaeth yn gyfres deledu lwyddiannus ar S4C
Dyddiadur Gbara 1997 ei hanes gyda VSO yn Nigeria
Bywyd Blodwen Jones 1999 y cyntaf yng nghyfres Blodwen Jones; nofel i ddysgwyr
Llinyn Trôns 2000 enillydd Gwobr Tir na n-Og, y wobr am nofelau i bobl ifanc; rhan o'r maes llafur TGAU
Blodwen Jones a'r Aderyn Prin 2001 ail lyfr yn y gyfres Blodwen Jones
Popeth am ... Gariad 2001 addasiad o Coping with Love gan Peter Corey
Sgôr 2002 cyd-ysgrifennwyd â disgyblion ysgol uwchradd; enillydd Gwobr Tir na n-Og
Byd Bethan 2002 casgliad o golofnau papur newydd
Tri Chynnig i Blodwen Jones 2003 y llyfr olaf yn y gyfres Blodwen Jones
Ceri Grafu 2003 rhan o'r gyfres Pen Dafad wedi'i anelu at bobl ifanc
Gwrach y Gwyllt 2003 hanes gwrach ifanc yn dychwelyd i fro ei mebyd i ddial am gam a wnaethpwyd â hi yn y gorffennol.
Ar y Lein 2004 llyfr yn cyd-fynd â'r gyfres deledu lle mae hi'n teithio'r byd
Hi Yw fy Ffrind 2004 ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005
Mwy o Fyd Bethan 2005 ail gasgliad o golofnau papur newydd
Pen Dafad 2005 rhan o gyfres Pen Dafad wedi'i anelu at bobl ifanc
Hi Oedd fy Ffrind 2006 dilyniant i Hi Yw fy Ffrind
Ar y Lein Eto 2006 i gyd-fynd â'r gyfres deledu
Os Mêts ... 2007 nofel Stori Sydyn
Y Gwledydd Bychain 2008 llyfr ffeithiol hawdd ei ddarllen yn y gyfres Stori Sydyn yn cymharu Cymru, Llydaw a Norwy.
Ar y Lein Eto Fyth! 2008 y llyfr olaf am ei theithiau gyda S4C
Ramboy 2009 cyfieithiad Saesneg o Pen Dafad
Yn Ôl i Gbara 2010 dilyniant i Dyddiadur Gbara
Dwy Stori Hurt Bost 2010 dwy stori ar gyfer darllenwyr 10-14 oed
Hanas Gwanas 2012 hunangofiant
Llwyth 2013 nofel ffantasi i'r arddegau
I Botany Bay 2015 nofel hanesyddol
Bryn y Crogwr 2015 nofel Stori Sydyn
Efa 2017 Cyfres y Melanai
Y Diffeithwch Du 2018 Cyfres y Melanai
Yn ei Gwsg 2018 Cyfres Amdani

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2014-03-02 yn y Peiriant Wayback. Proffil; adalwyd 25 Mawrth 2014
  2.  Oriel yr Enwogion: Bethan Gwanas. BBC Lleol (Adalwyd 10-04-2009).
  3.  Gwasg Gomer yn “hollol dawel” eu meddwl. Golwg360 (21 Gorffennaf 2017).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]