Bargyfreithiwr

Oddi ar Wicipedia

Yn y gyfraith gyffredin, gŵr y gyfraith neu gwnsler yw bargyfreithiwr[1] sydd yn dadlau wrth y Bar mewn achos cyfreithiol.[2] Mae'n wahanol i'r cyfreithiwr neu'r twrnai sydd yn llunio'r plediadau, yn paratoi'r dystiolaeth, ac yn cynnal materion y tu allan i'r llys.[2]

Yn yr Alban a rhai gwledydd eraill, mae swydd yr adfocad yn debyg i'r bargyfreithiwr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 20.
  2. 2.0 2.1 Black's Law Dictionary (ail argraffiad, 1910), [barrister].
Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.