Barcud Derwen

Oddi ar Wicipedia
Barcud Derwen
Math
busnes
Sefydlwyd1982
Daeth i ben15 Mehefin 2010
PencadlysCaernarfon

Cwmni teledu Cymreig oedd Barcud Derwen oedd a'r cyfleusterau darlledu mwyaf y tu allan i Lundain. Fe'i sefydlwyd yn 1982 yng Nghaernarfon ac aeth i ddwylo'r derbynnydd Grant Thornton ar 15 Mehefin 2010 ynghyd â: Barcud Derwen Cyfyngedig, Derwen Ltd, Barcud Derwen (Scotland) Ltd, Awen Cyfyngedig, Eclipse (Creative) Ltd a 422 Ltd.[1]

Roedd Barcud Derwen yn gwmni a oedd yn darlledu'n fyw o'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Disgrifid y cwmni ar wefan Barcud fel "cwmni adnoddau teledu sy'n cynnig bob gwasanaeth gan gynnwys unedau darlledu allanol digidol, dwy stiwdio a adeiladwyd i bwrpas, ac adnoddau ôl-gynhyrchu llawn yn ogystal ag unedau P.S.C."

Un o gyfarwyddwyr a lladmerydd blaenllaw'r cwmni oedd yr awdur Iwan Edgar.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]