BBC

Oddi ar Wicipedia
BBC
BBC Broadcasting House o'r tu fewn
Enghraifft o'r canlynolbusnes, public broadcaster, sefydliad Edit this on Wikidata
IdiolegAmhleidioldeb Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu18 Hydref 1922, 1 Ionawr 1927 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifStuart A. Rose Manuscript, Archives, and Rare Book Library, BBC Archives Edit this on Wikidata
SylfaenyddJohn Reith, George Villiers, 6th Earl of Clarendon Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBritish Broadcasting Company Limited Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolUndeb Darlledu Ewropeaidd, World Wide Web Consortium, Digital Preservation Coalition, Permanent Committee on Geographical Names Edit this on Wikidata
Gweithwyr22,219 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auBBC Worldwide, BBC Studioworks, BBC Film, BBC Studios, German Service Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolSiarter brenhinol, statutory corporation Edit this on Wikidata
Cynnyrchdarlledu, radio broadcasting Edit this on Wikidata
Incwm290,000,000 punt sterling Edit this on Wikidata 290,000,000 punt sterling (31 Mawrth 2021)
PencadlysLlundain, Y Tŷ Darlledu Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://bbc.com, https://bbc.co.uk, https://www.bbcweb3hytmzhn5d532owbu6oqadra5z3ar726vq5kgwwn6aucdccrad.onion Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Corfforaeth ddarlledu gyhoeddus y Deyrnas Unedig yw'r British Broadcasting Corporation (yn statudol Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn Gymraeg, ond defnyddir y byrfodd BBC: "bi bi ec" neu "bi bi si").

Mae'n darparu gwasanaethau teledu, radio ac arlein trwy'r Deyrnas Unedig ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau, y gwasanaeth radio BBC World Service, ynghyd â nifer o fentrau masnachol yn y maes teledu, fel BBC America.

Hanes y BBC[golygu | golygu cod]

1920-1950[golygu | golygu cod]

BBC Broadcasting House, Llundain

Yn y 1920au gwelwyd creadigaeth y BBC fel sefydliad a darlledydd. Gwnaeth John Reith greu'r ethos, sef i hysbysu, addysgu ac adloni—model sy'n addas ar gyfer unrhyw ddarlledwr cyhoeddus. Profwyd radio i fod yn boblogaidd iawn trwy'r wlad, efo cynnydd mawr yn werthiant y radio. Yn ystod y Streic gyffredinol yn 1926 wynebodd y BBC wrthdaro mawr efo'r llywodraeth ynglŷn ag annibyniaeth olygyddol y darlledwr. Erbyn y 1930au ehangodd y sefydliad efo hyder, ac roedd yr Broadcasting House, sef y canolfan darlledu cyntaf o'r fath ym Mhrydain, yn symbolaidd o hyn. Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn arloesi efo'r dewis cynyddol o raglenni radio ac roedd yna hefyd arbrofion darlledu teledu dan arweiniad John Logie Baird, sef dyfeisiwr y teledu. Chwaraeodd y BBC rhan allweddol bwysig trwy ddarlledu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er bod darllediadau teledu wedi darfod dros y cyfnod. Gwnaeth Winston Churchill nifer o areithiau ysbrydol dros y tonnau awyr ac roedd y gwasanaeth newyddion yn fudd i nifer o bobl o gwmpas y byd. Tua diwedd y 1940au yr oedd y radio yn darlledu ychydig o adloniant ysgafnach hefyd, efo rhaglenni hir dymor megis Womans Hour a Book at Bedtime.

BBC yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Dechreuodd darlledu yng Nghymru ar 13 Mehefin 1923. Darlledwyd y Gymraeg am y tro cyntaf efo Mostyn Thomas yn canu Dafydd y Garreg Wen [1] Roedd cadw cydbwysedd rhwng y ddwy iaith yn broblem yn y dyddiau hyn hyd yn oed. Digon llugoer oedd agwedd Llundain tuag at Gymru, a bu rhaid pwyso yn drwm am arian a chydnabyddiaeth. Yn wir roedd John Reith yn casáu Cymru. Er gwaethaf hyn sefydlwyd adran ar wahan i Gymru yn 1935. Yn 1937 cafwyd tonfedd arbennig.[2]

1950-1970[golygu | golygu cod]

Y 1950au oedd degawd y teledu, efo cynnydd mawr mewn gwylwyr oherwydd coroni Elizabeth II yn 1953. Yn dilyn hyn, dechreuodd rhaglenni fel Blue Peter, Panorama, y sebon cyntaf erioed ac ar y radio dechreuodd Under Milk Wood a hefyd The Archers. Gwelodd y 1960au ehangiad mawr i'r sefydliad, wrth iddynt symud i mewn i’w cartref newydd, sef Televison Centre yn Llundain. Tyfodd y sîn pop ym Mhrydain efo lansiad Radio 1 yn 1967. Roedd 1969 yn flwyddyn a thrawsnewidiodd y diwydiant, efo darllediad Apollo 11 yn glanio ar y Lleuad mewn lliw.

1970-1990[golygu | golygu cod]

Yn ystod y 1970au gwelodd y BBC mwy o esblygiad efo cyflwyniad rhaglenni comedi megis Morecambe and Wise, rhaglenni dogfennol David Attenborough a dramâu fel y BBC Shakespeare Project. Roedd partneriaethau efo'r Brifysgol Agored wedi torri tir newydd yn y ffordd a darlledwyd addysg. Roedd yna ffocws pwysig ar y BBC yn ystod yr 1980au wrth adrodd ar Ryfel y Falklands, a hefyd arddangos cyngerdd Live Aid. Gwyliodd dros 750 miliwn priodas Charles a Diana - y nifer fwyaf o wylwyr erioed ym Mhrydain, a lansiwyd y sebon EastEnders yn 1985. Roedd yna wrthdaro eto am annibyniaeth olygol y sefydliad o gwmpas yr amser roedd yna gyffro yng Ngogledd Iwerddon, am y tro cyntaf ers i streic gyffredinol.

1990- presennol[golygu | golygu cod]

Daeth y BBC mewn i’r oes ddigidol yn y 90’au, trwy ddatblygu nifer o ddulliau darlledu digidol, boed yn darlledu daearol neu dros y rhyngrwyd. Lansiwyd sianel newyddion pedair awr ar hugain, ac roedd y teletubies wedi trawsnewid rhaglenni plant ar raddfa fydol. Galwyd y 2000’au yn ddegawd digidol efo cynulleidfaoedd eisiau mwy o gynnwys unrhyw bryd ac unrhyw le, felly lansiwyd BBC iplayer yn Nadolig 2007. Mae’r wefan yn cael dros 3.6 biliwn edrychiad pob mis.

Lleoliadau[golygu | golygu cod]

Lleolir prif swyddfeydd canolog y gorfforaeth yng nghanol a gorllewin Llundain, gyda swyddfeydd a stiwdios ar gyfer y gwasanaethau i genedloedd a rhanbarthau Gwledydd Prydain mewn trefi a dinasoedd eraill. Mae cynllun ar droed hefyd i adleoli nifer o adrannau cynhyrchu'r BBC yn MediaCity yn ninas Salford ym Manceinion.

Yng Nghymru mae gan BBC Cymru bresenoldeb yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Wrecsam a nifer o stiwdios eraill di-griw gan cynnwys Abertawe.

BBC Cymru[golygu | golygu cod]

Prif: BBC Cymru
Logo BBC Cymru Wales

Adran neu ranbarth cenedlaethol y BBC ar gyfer Cymru yw BBC Cymru (BBC Wales).

Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, rhaglenni radio yn Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac arlein ar wefan BBC Cymru.

Mae'r wefan BBC yn cynnwys newyddion, chwaraeon, tywydd, a gwybodaeth traffig a theithio, gwybodaeth am raglenni BBC Cymru a Radio Cymru, ac erthyglau ac adolygiadau ar nifer o bynciau yn cynnwys crefydd, y celfyddydau, hanes ac iaith. Mae hefyd yn cynnwys rhaglenni Cymraeg ar BBC iplayer. Roedd yr is-wefan yn darparu meddalwedd o'r enw "BBC Vocab/Geirfa" ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, sy'n uwcholeuo rhai geiriau ac yn rhoi cyfieithiad/au Saesneg os lleolir y cyrchwr dros y gair. Yn y 2010au mabwysiadwyd Vocab gan yr Uned Technolegau Iaith a dilewyd y gair BBC o'r botwm.[3][4] Mae'n defnyddio geiriaduron yr uned i'r perwyl.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. Trevor Fishlock a Mererid Hopwood, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007, t. 178
  2. Trevor Fishlock a Mererid Hopwood, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 t. 179
  3. yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 272/3
  4. Uned Techolegau Iaith, Bangor.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]