Awdurdod Addysg Lleol

Oddi ar Wicipedia

Awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr sy'n gyfrifol am addysg yn ei awrdudodaeth ydy Awdurdod Addysg Lleol (AALl). Ers Deddf Plant 2004 mae pob awdurdod addysg lleol hefyd yn awdurdod gwasanaethau plant ac mae'r cyfrifoldeb am y ddau gan y cyfarwyddwr gwasanaethau plant.[1]

Swyddogaethau[golygu | golygu cod]

Mae gan awdurdodau addysg lleol gyfrifoldeb am holl ysgolion y wladwriaeth yn eu hardal hwy.

  • Maent yn gyfrifol am ddosbarthu a monitro cyllid mewn ysgolion.
  • Maent yn gyfrifol am gydlynnu'r polisi derbyn, gan gynnwys y nifer o blant sy'n medru mynychu pob ysgol.
  • Nhw ydy cyflogwyr uniongyrchol yr holl staff mewn ysgolion cymunedol ac ysgolion a reolir yn wirfoddol.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Deddf Plant 2004 c. 31
Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato