Avon (sir)

Oddi ar Wicipedia
Avon
Mathsir an-fetropolitan, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, siroedd seremonïol Lloegr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.45°N 2.583°W Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Avon.

Sir yn rhanbarth De-orllewin Lloegr oedd Avon. Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o fwrdeistrefi sirol Bryste a Chaerfaddon gyda rhannau o Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996. Fe'i henwyd ar ôl Afon Avon sy'n llifo trwyddi.

Lleoliad Avon yn Lloegr

Roedd gan y sir arwynebedd o 1,346 km² gyda poblogaeth o 900,416 yng nghyfrifiad 1981. Roedd yn ffinio ar Swydd Gaerloyw i'r gogledd, Wiltshire i'r dwyrain, Gwlad yr Haf i'r de, a Môr Hafren i'r gorllewin.

Rhennid y sir yn chwech ardal an-fetropolitan:

  1. Northavon
  2. Bryste
  3. Kingswood
  4. Woodspring
  5. Wansdyke
  6. Caerfaddon

Diddymwyd y sir ym 1996. Fe'i disodlwyd gan bedwar awdurdod unedol:

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Er i Avon beidio i fodoli fel endid gweinyddol yn 1996, mae'r ardal yn parhau i gael ei defnyddio mewn ffordd swyddogol a lled-swyddogol at nifer o ddibenion. Er enghraifft:

  • Avon Coroner (Swyddfa Crwner Avon)
  • Avon Fire and Rescue Service (Gwasanaeth Tân ac Achub Avon)
  • Avon and Wiltshire Mental Health Partnership NHS Trust
  • Avon and Somerset Police (Heddlu Avon a Gwlad yr Haf)

Mae Avon hefyd yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn adolygiadau ffiniau ar gyfer etholaethau seneddol y DU, ac mae'r senedd yn parhau i restru etholaethau fel rhai sy'n perthyn i'r hen sir.[1] Dyma'r deg etholaeth sydd wedi'u rhestru:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "MPs and Lords: Avon"; adalwyd 13 Mehefin 2021