Avant-garde

Oddi ar Wicipedia
Avant-garde
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, mudiad llenyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Fontaine (Fynnon) gan Marcel Duchamp, Musée national d'Art moderne
The Love of Zero, ffilm fer avant-garde o 1927 gan Robert Florey

Mae'r term avant-garde yn dod o'r Ffrangeg, golyga yn llythrennol 'blaen leng' neu 'blaengad'. Defnyddir ac arddelir y term gan bobl mewn gweithiau celf arbrofol neu an-uniongred, cerddoriaeth neu gymdeithas a gall gynnig beirniadaeth neu gritic yn y berthynas rhwng y cynhyrchydd a'r consiwmydd.

Bydd yr avant-garde yn gwthio ffinio o'r hyn sy'n dderbyniol fel norm, yn enwedig ym maes diwylliant. Gwelir hi fel bathodyn o'r hyn yw moderniaeth, yn wahanol i ôl-foderniaeth. Bydd nifer o artistiaid yn uniaethu gyda'r mudiad avant-garde ac yn dal i wneud gan olrhain y traddodiad o fudiad Dada i'r Situationists ac i'r artistiaid ôl-fodern ddechrau'r 1980au.

Mae'r avant-garde hefyd yn hyrwyddo diwygiadau cymdeithasol radical. Dyma oedd gwraidd ystyr dyfyniad Olinde Rodrigues yn ei erthygl "L'artiste, le savant et l'industriel" ("Yr artist, y gwyddonydd a'r diwydiannwr", 1825) sy'n cynnwys y cyfeiriad cyntaf i'r term "avant-garde" yn ei ystyr gyfoes. Galwodd Rodrigues ar i artistiaid "wasanaethu fel 'avant-garde' y bobl", gan fynnu "mae angen grym y ceflyddydau yn y modd mwyaf unionsyth a cyflymaf" er mwyn diwygiad cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd.[1]

Cysyniad a Dadansoddiad[golygu | golygu cod]

Karlheinz Stockhausen (1980)
enghraifft o gelf Ciwbiaeth, 'Mann im Café', 1914 gan Juan Gris

Her oesol yr avant-garde yw y bydd syniadaeth ac yn enwedig celf a cherddorieth, yn aml, yn dod brif-ffrwd. Bryd hynny, y cwestiwn mawr yw: a yw'r datblygiad yn y gelfyddyd honno'n avant-garde neu beidio?

Nodwyd hyn gan ddeallusion Ysgol Frankfurt yn yr 1930au a'r 1940au. Gwelir y feirniadaeth a'r drafodaeth hyn yng ngwaith Theodor Adorno a Max Horkheimer yn eu traethawd, The Culture Industry: Enlightenment as Mass-Deception (1944), a hefyd Walter Benjamin yn ei waith dylanwadol iawn, The Work of Art in the Age of Mechanical Reproductio (1935, adolygwyd, 1939).[2] Mae Greenberg yn defnyddio'r gair Almaeneg 'kitsch' i ddisgrifio'r gwrthwyneb llwyr i ddiwylliant avant-garde, a bathodd aelodau Ysgol Frankfurt y term, diwylliant torfol (mass culture) i gyfeirio at ddiwylliant ffug oedd yn gyson cael ei chynhyrchu gan y diwydiant diwylliant newydd (oedd yn cynnwys geist masnachol, y diwydiant ffilm, y diwydiant recordiau cerddoriaeth pob a'r cyfryngau megis teledu a radio).[3] Cyfeirion nhw at dwf diwydiant yma a olygai fod rhagoriaeth celfyddydol yn cael ei fesur wrth ei werth ariannol: gwerth nofel oedd ei werthiant; cerddoriaeth os oedd yn ennill 'disg aur' ac ar frig y siartiau. Yn y ffordd yma, roedd gwerth artistig gelfyddydol oedd mor bwysig i'r avanguardiaid yn cael ei golli a gwerthiant yn dod yn unig wir ffordd o fasur llwyddiant a gwerth unrhyw beth. Roedd diwylliant comsiwmer nawr yn rheoli.[3]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Bydd cerddoriaeth avant-gard yn aml yn herio syniadaeth ar harmoni, melodi a rhyddm.

Gall cerddoriaeth avant-garde gyfeirio at unrhyw fath o gerddoriaeth o fewn ei strwythurau cydnabyddiedig, ond sy'n ceisio ymestyn ffiniau newydd mewn rhyw fodd. Ymysg rhai o gyfansoddwyr avant-garde enwog y 20g mae Arnold Schoenberg, Igor Stravinsky, Philip Glass, John Cage, Morton Feldman, Richard Strauss (yn ei waith cynharaf) a Karlheinz Stockhausen. Ceir hefyd gyfansoddwyr avant-garde benywaidd megis Pauline Oliveros, Diamanda Galás, Meredith Monk, a Laurie Anderson.

Ceir diffiniad arall o gerddoriaeth avant-garde sy'n ei wahaniaethu oddi wrth moderniaeth. Dywed Peter Bürger, er enghraifft, fod avant-gardiaeth yn ymwrthod â 'chelf fel sefydliad' ac yn herio moesau cymdeithasol ac artistig a gan hynny'n cynnwys ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Yn ôl y cyfansoddwr a'r cerddor Larry Sitsky, dydy rhai o gyfansoddwyr modernaidd yr 20g cynnar ddim i'w hystyried fel avant-gardiaid, mae'r rhain yn cynnwys Arnold Schoenberg, Anton Webern, a Igor Stravinsky ac eraill, gan fod eu "modernism was not conceived for the purpose of goading an audience."[4]

Theatr[golygu | golygu cod]

Mae avant-garde yn gryf iawn ym maes theatr a chelfyddyd perfformio, ac mae hynny'n aml wrth gydweithio â datblygiadau ym myd cerddoriaeth, sain a chyfryngau gweledol. Ymysg y mudiadau a gyfrannodd neu a ddatblygodd yn y traddodiad avant-garde mae Fluxus, Happenings, a Neo-Dada.

Celf[golygu | golygu cod]

Ceir nghreifftiau o gelf a dderbyniwyd yn hwyrach ymlaen fel avant-garde a datblygiad hanes celf y Gorllewin:

Avant-garde Cymraeg[golygu | golygu cod]

Gellir gweld elfennau o syniadaeth avant-garde mewn diwylliant Gymraeg mewn sawl maes. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth a pherfformiadau'r grŵp pop o'r 1980-90au, Traddodiad Ofnus gyda Gareth Potter a Mark Lugg neu waith y cwmni theatr Brith Gof. Roedd elfen avant-garde yn nofel Jerry Hunter, Ebargofiant (Gwasg y Lolfa, 2014).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Matei Calinescu, The Five Faces of Modernity: Modernism, Avant-Garde, Decadence, Kitsch, Postmodernism (Durham: Duke University Press, 1987)
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-04. Cyrchwyd 2018-08-30.
  3. 3.0 3.1 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-09-29. Cyrchwyd 2018-08-30.
  4. Larry Sitsky, Music of the Twentieth-Century Avant-Garde: A Biocritical Sourcebook (Westport, Conn: Greenwood Press, 2002)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]