Aurelian

Oddi ar Wicipedia
Aurelian
GanwydLucius Domitius Aurelianus Edit this on Wikidata
9 Medi 214 Edit this on Wikidata
Sirmium Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 275 Edit this on Wikidata
Çorlu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
PriodUlpia Severina Edit this on Wikidata
PlantDomitica Edit this on Wikidata
LlinachIllyrian emperors Edit this on Wikidata

Lucius Domicius Aurelianus (9 Medi 214275) oedd ymerawdwr Rhufain o 270 hyd 275.

Ganed Aurelian yn Moesia neu Pannonia, yn fab i wladwr. Ymunodd a'r fyddin ac erbyn 268 yr oedd yn gyfrifol am y marchogion yn yr Eidal pan ddechreuodd Aureolus ei wrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr Gallienus. Cydweithredodd Aurelian gyda'r cadfridog Claudius, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarch fel Claudius II, i orchfygu Aureolus. Wedi'r fuddugoliaeth dechreudd y ddau gadfridog gynllwynio yn erbyn Gallienus, a chyhoeddwyd Claudius yn ymerawdwr ac Aurelian yn dux equitum, pennaeth y marchogion.

Wedi marwolaeth Claudius daeth ei frawd Quintillus yn ymerawdwr, ond cychwynodd Aurelian tua Rhufain gyda'i fyddin i ennill yr ymerodraeth iddo'i hun. Lladdodd Quintillus ei hun pan welodd fod byddin Aurelian yn gryfach na'i fyddin ef.

Wedi dod i'r orsedd bu raid i Aurelian ddelio a nifer o ryfeloedd oedd wedi dechrau yn ystod teyrnasiad Claudius. Gallodd roi diwedd ar ryfel yn erbyn y Gothiaid mewn byr amser, ond yna bu ymladd yn erbyn llwythi Almaenaidd eraill megis y Marcomanni a'r Vandaliaid oedd yn ceisio croesi Afon Donaw. Llwyddodd Aurelian i'r gyrru hwythau yn ôl.

Bu argyfwng arall pan groesodd y Germaniaid yr Alpau i anrheithio'r Eidal. Ceisiodd Aurelian eu hatal yn yr Alpau, ond gorchfygwyd ef ganddynt. Ychydig yn ddiweddarach bu helyntion yn Rhufain ei hun, a bu'n rhaid i Aurelian ddefnyddio'r fyddin i adfer heddwch. Dywedir i 7,000 o bobl gael eu lladd yn y ddinas, yn cynnwysd aelodau o'r Senedd. Gwellodd y sefyllfa yng ngogledd yr Eidal pan ymrannodd y Germaniaid yn fyddinoedd llai, a gallodd yr ymerawdwr eu gorchfygu fesul un. Oherwydd yr ymosodiadau hyn penderfynodd Aurelian adeiladu mur o amgylch Rhufain, Mur Aurelianus. Dechreuodd y gwaith yn 271 a gorffennwyd ef yn nheyrnasiad Probus.

Arian yn dangos delwedd Aurelian

Cyhoeddodd nifer o bersonau eu hunain yn ymerodron, ond llwyddodd Aurelian i'w gorchfygu heb ormod o drafferth. Yn 272 gorchfygodd y Gothiaid ar ffin Afon Donaw, gan ladd eu brenin, Cannabaudes. Yna troes tua'r dwyrain, lle'r oedd Zenobia, brenhines Palmyra wedi adeiladu ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r Aifft hyd Asia Leiaf. Gorchfygodd Aurelian Zenobia mewn dwy frwydr cyn gwarchae ar Palmyra. Ceisiodd Zenobia ddianc i Persia ond cymerwyd hi'n garcharor gan y Rhufeiniaid.

Yn awr troes Aurelian tua'r gorllewin, lle'r oedd yr Ymerodraeth Alaidd wedi dod yn rhydd o reolaeth Rhufain. Ildiodd Tetricus I, ymerawdwr y Galiaid, a'i fab Tetricus II, i Aurelian, ac ail-ymgorfforwyd tiriogaethau'r Ymerodraeth Alaidd yn yr Ymerodraeth Rufeinig.

Wedi delio a gelynion allanol, rhoes Aurelian ei sylw i'r economi. Bathodd ddau fath newydd o arian, un ohonynt wedi ei enwi yn "Aurelian". Gwnaeth ymdrech fawr i ddileu llygredd yn yr ymerodraeth. O ran crefydd, ceisiodd Aurelian uno'r ymerodraeth trwy ledaenu cwlt Mithras, oedd yn boblogaidd iawn ymhlith y milwyr.

Roedd Aurelian yn cynllunio ymgyrch i adennill Mesopotamia i'r ymerodraeth pan lofruddiwyd ef gan ei ysgrifennydd personol, Eros, efallai am ei fod yn ofni am ei safle yn wyneb ymgyrch Aurelian yn erbyn llygredd. Cyhoeddwyd ef yn dduw yn nheyrnasiad ei olynydd, Marcus Claudius Tacitus.

Rhagflaenydd:
Quintillus
Ymerawdwr Rhufain
270275
Olynydd:
Tacitus