Asid pantothenig

Oddi ar Wicipedia
Asid pantothenig
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathasid carbocsylig Edit this on Wikidata
Màs219.110673 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₉h₁₇no₅ edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fitamin o deulu fitamin B yw asid pantothenig neu fitamin B5. Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn; mae'n gwneud hyn trwy greu coenzyme-A (CoA) ac ar gyfer y metaboledd a hefyd trwy greu carboheidrad, protein, a saim. Fel gweddill teulu fitamin B gall asid pantothenig hydoddi mewn dŵr. Mae'r gair "pantothenig" yn tarddu o'r gair Groeg (παντόθεν) (sef "yn dod o bobman"), gan fod rhyw ychydig ohono ar gael, bron, ym mhob bwyd, yn enwedig grawnfwydydd cyflawn, llysiau gwyrdd, wyau, cig a mêl.

Mae asid pantothenig yn hanfodol ar gyfer beichiogrwydd iach a chyflawn.