Arwystli

Oddi ar Wicipedia
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)
Map braslun o gantrefi Powys

Cantref yn ne Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) oedd Arwystli. Mae'n enw sy'n fyw o hyd; fe'i gwelir yn yr enw lle 'Pen Pumlumon Arwystli', un o bum copa Pumlumon, er enghraifft. Roedd y cantref yn fynyddig ac yn cynnwys rhannau uchaf Dyffryn Hafren.

Gorweddai Arwystli yn ne-orllewin y deyrnas. Pan ranwyd Powys yn ddwy ran yn 1160 daeth yn rhan o Bowys Wenwynwyn. Ffiniai'r cantref â Ceri, Maelienydd, Gwerthrynion a Chwmwd Deuddwr i'r de (Rhwng Gwy a Hafren), cantref Penweddig a rhan o gwmwd Mefenydd i'r gorllewin (Ceredigion), a chantrefi Cyfeiliog, Caereinion (rhan fechan) a Cedewain i'r gogledd, ym Mhowys ei hun.

Rhennid Arwystli yn ddau gwmwd gan goedwig fawr, sef:

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Arwystli gan Arwystl, un o feibion tybiedig Maelgwn Gwynedd, ond mae'n bosibl mai chwedl onomastig a ddyfeisiwyd yn yr Oesoedd Canol i esbonio'r enw yw'r traddodiad hwnnw.

Ar wahanol adegau bu ymgiprys am reolaeth ar Arwystli rhwng Deheubarth, Gwynedd a theyrnas Powys ei hun. Fel yn achos Cyfeiliog, hawliwyd Arwystli gan dywysogion Deheubarth. Ond bu gan Arwystli gysylltiadau cryf â theyrnas Gwynedd hefyd. Yn yr 11g daeth yn rhan o Esgobaeth Bangor, ac roedd ei rheolwyr lleol yn tueddu i edrych at Aberffraw a Bangor am arweiniad yn hytrach na Mathrafal a Llanelwy. Yn ail hanner y ganrif honno, ymledodd Trahaearn ap Caradog ei awdurdod dros ran helaeth o ogledd a gorllewin Cymru. Daeth yn frenin Gwynedd ond fe'i trechwyd gan Gruffudd ap Cynan o Wynedd a Rhys ap Tewdwr o Ddeheubarth a'i ladd ym Mrwydr Mynydd Carn (1081).

Yn ail hanner y 12g daeth y cantref i feddiant Owain Cyfeiliog a dan ei fab Gwenwynwyn bu'n rhan o dywysogaeth Powys Wenwynwyn. Yn y 13g bu hawl Llywelyn ap Gruffudd i Arwystli yn ffactor amlwg yn yr anghydfod rhyngddo ac Edward I o Loegr yn y cyfnod o 1277 hyd 1282, gan fod Coron Lloegr yn cefnogi ei deiliad Gruffudd ap Gwenwynwyn.

Mwynheai Owain Glyndŵr gefnogaeth gref yn Arwystli. Roedd yn gadarnle pwysig iddo yn ei wrthryfel. Ymladdwyd un o frwydrau mawr y gwrthryfel ar lethrau Pumlumon yn 1402, pan guriwyd llu Seisnig ym Mrwydr Hyddgen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]