Argae'r Tri Cheunant

Oddi ar Wicipedia
Argae'r Tri Cheunant
Enghraifft o'r canlynolgravity dam, boat lift, gorsaf bŵer hydro-electrig Edit this on Wikidata
Rhan oQ4216607 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2003 Edit this on Wikidata
LleoliadSandouping Edit this on Wikidata
PerchennogChina Yangtze Power Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrChina Yangtze Power Edit this on Wikidata
Enw brodorol三峽大壩 Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
RhanbarthSandouping Edit this on Wikidata
Hyd2,335 metr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Argae'r Tri Cheunant yw bloc concrit mwyaf y byd.

Argae hydroelectrig mwyaf y byd yw Argae'r Tri Chuenant, wedi'i leoli ar ddraws yr Afon Yangtze yn Tsieina. Dechreuodd adeiladwaith yn 1993 a gorffennodd gwaith adeiladol dros ddegawd wedyn ar 20 Mai, 2006, naw mis o flaen ei amserlen, ond mae nifer o generaduron dal angen cael eu gosod a ni ddisgwylir yr argae bod yn hollol weithredol nes 2009.

Mae llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn honni bydd yr argae yn atal y Yangtze rhag gorlifo, ac felly yn achub bywydau pobl cyfagos.[1] Mantais mawr arall bydd yr 18 000 kW a gynhyrchir pob awr gan dyrbeini yn yr argae. Ond fel y rhan fwyaf o argaeau, mae adeiladiad Argae'r Tri Cheunant wedi bod yn bwnc dadleuol iawn, gan ei fydd yn achosi nifer o broblemau amgylcheddol a chymdeithasol. Bydd cymaint ag 1.2 filiwn o bobl mewn peryg o dod yn ddigartref a bydd nifer o rywogaethau yn wynebu difodiant, yn cynnwys y Baiji, math o ddolffin unigryw gwyn.

Model yr argae[golygu | golygu cod]

Dyma'r modelau a adeiladir er mwyn dangos beth bydd yr argae yn edrych fel yn 2009, pryd cwblheir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC Cymru'r Byd — Ffeil – Coblyn o glec!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-21. Cyrchwyd 2006-09-27.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: