Arfbais Slofenia

Oddi ar Wicipedia

Mae arfbais Slofenia yn dangos tri brig Mynydd Triglav (mynydd uchaf Slofenia) ar gefndir glas mewn tarian ag ymyl coch. Dan Mynydd Triglav y mae dwy linell donnog sy'n cynrychioli'r môr a'r afonydd. Uwchben Triglav y mae tair seren aur chwe phigyn ar ffurf triongl. Daw'r sêr oddi wrth arfbais cowntiaid Celje. Mabwysiadwyd yr arfbais pan ddaeth Slofenia yn annibynnol o Iwgoslafia yn 1991.

Rhagflaenwyr a hanes yr arfbais[golygu | golygu cod]

Arfbais Gweriniaeth Sosialaidd Slofenia

Roedd y llinellau tonnog a delw Mynydd Triglav yn ymddangos ar arfbais Gweriniaeth Sosialaidd Slofenia pan oedd Slofenia yn rhan o Iwgoslafia. Fe'i hamgylchynwyd gan dorch ŷd, dail pisgwydd a rhuban coch, gyda seren goch sosialaidd ar y brig.