Ardal Cotswold

Oddi ar Wicipedia
Ardal Cotswold
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Gaerloyw
PrifddinasCirencester Edit this on Wikidata
Poblogaeth91,311 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,164.5242 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.719°N 1.968°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000079 Edit this on Wikidata
Cod OSSP0221002304 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Cotswold District Council Edit this on Wikidata
Map

Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Cotswold (Saesneg: Cotswold District), sy'n cael ei enwi ar ôl y Cotswolds.

Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,165 km², gyda 89,022 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cynnwys rhan ddwyreiniol Swydd Gaerloyw. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Gaerloyw, sef Bwrdeistref Tewkesbury, Bwrdeistref Cheltenham ac Ardal Stroud, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerwrangon, Swydd Warwick, Swydd Rydychen a Wiltshire.

Ardal Cotswold yn Swydd Gaerloyw

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Mae'r pencadlys yr awdurdod yn Cirencester, tref fwyaf yr ardal. Mae'r aneddiadau mwy yn cynnwys trefi Chipping Campden, Fairford, Lechlade, Moreton-in-Marsh, Stow-on-the-Wold, Tetbury a Winchcombe.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 7 Ebrill 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerloyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato