Apollodorus o Ddamascus

Oddi ar Wicipedia
Apollodorus o Ddamascus
Ganwyd1 g Edit this on Wikidata
Damascus Edit this on Wikidata
Bu farw120s Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, ysgrifennwr, peiriannydd, cynlluniwr trefol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPont Trajan, Poliorcetica Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw gweler Apollodorus ac Apollodorus (gwahaniaethu).

Pensaer Groegaidd o ddinas Damascus a fu'n gyfrifol am sawl gwaith pensaernïol yn Rhufain yn amser yr ymerawdwr Trajan oedd Apollodorus o Ddamascus (bu farw 129 OC).

Cafodd ei eni yn Damascus. Symudodd i weithio yn Rhufain lle daeth yn brif bensaer yr ymerawdwr Trajan. Cynlluniodd Fforwm Trajan, Cofgolofn Trajan a gweithiau eraill, ac ef hefyd a gynlluniodd y Pantheon, yn ôl pob tebyg. Ond syrthiodd dan wg yr ymerawdwr Hadrian, olynydd Trajan. Cafodd ei alltudio ganddo ac yn 129 OC fe'i dienyddwyd.

Mae ei draethawd ar beiriannau rhyfel, wedi ei chyflwyno i Hadrian, wedi goroesi.