Antonio Solario

Oddi ar Wicipedia
Antonio Solario
Ganwyd1465 Edit this on Wikidata
Civita d'Antino Edit this on Wikidata
Bu farw1514 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Arlunydd Eidalaidd yn ystod y Dadeni oedd Antonio Solario (tua 1465 – 1530) a elwid Lo Zingaro ("Y Sipsi"). Mae'n sicr taw dyn go iawn ydoedd, a briodolir sawl paentiad a golchlun iddo, ond mae'n debyg taw straeon ffug yn unig sydd gennym o'i fywyd.

Yr unig ffynhonnell sydd gennym am fywyd Solario yw Bernardo de' Dominici, yn ei gasgliad o fywgraffiadau cryno o arlunwyr Napoli. Dywed Dominici taw Chivita, yn yr Abruzzi, oedd ei fan geni, ond tybir eraill taw brodor o Fenis oedd Solario. Fel yr awgrymir ei lysenw, o dras Roma ydoedd. Yn ei ieuenctid, teithiai ar hyd y wlad i weithio fel gof, a mynegir iddo gael ei gymryd i mewn i gartref yr arlunydd Colantonio' del Fiore yn Napoli, oherwydd ei fedrusrwydd mawr fel gwneuthurwr offerynnau haearn. Syrthiodd Solario mewn cariad gyda merch Colantonio, a syrthiodd hithau mewn cariad ag yntau. Gwnaeth Solario ei feddwl yn hysbys i Colantonio, ond dywedai yr olaf na chydsyniai efe byth i'w ferch briodi â neb ond ag arlunydd a feddai o leiaf gymeriad mor uchel ag ef ei hun. Nid oedd Lo Zingaro i gael ei ddiganoli yn y ffordd hon: gofynodd am gael deng mlynedd o amser i astudio'r gelfyddyd, ac er mwyn bodloni ei ferch, cydsyniodd Colantonio â'r cais.

Rhoddodd Solario ei hun yn ddisgybl i Lippo di Dalmasio yn Bologna, gyda'r hwn yr arosodd am chwech neu saith mlynedd. Wedi hynny, teithiodd trwy brif drefi'r Eidal mewn trefn i astudio gweithiau meistriaid eraill yn y gelfyddyd. Ymhen ychydig gyda naw mlynedd, dychwelodd yn ddirgelaidd i Napoli, ac wedi anrhegu brenhines Napoli â darlun o'r Forwyn Fair, ac o'r bachgen Iesu yn cael ei goroni gan angylion, a hefyd wedi cael caniatâd i baentio darlun o'r frenhines, gwahoddwyd Colantonio i weld cynhyrchion yr arlunydd anadnabyddus, a datganodd yntau ei edmygedd mwyaf ohonynt. Yna amlygodd Solario ei hun, ac yn fuan ar ôl hynny, daeth yn fab-yng-nghyfraith i Colantonio. Sefydlwyd ei gymeriad ar unwaith, a chafodd lawer o waith, yn enwedig yn Napoli, i baentio allorau'r eglwysi, ac addurno muriau mynachdai a thai crefyddol eraill.

Mae'n sicr bod gwallau yn yr hanes gan Dominici: er enghraifft, honnai taw 1382 oedd blwyddyn geni'r arlunydd, ac iddo farw ym 1455. Yn yr 20g, cywirwyd cronoleg ei fywyd gan yr haneswyr celf, a gwyddom taw diwedd y 15g a dechrau'r 16g oedd cyfnod ei oes. Blodeuodd Dalmasio yn y cyfnod cynharach a honnir gan Dominici, ac felly mae'n sicr nad oedd Solario yn ddisgybl iddo. Yn wir, mae'n debyg na fodolai'r arlunydd Colantonio' del Fiore o gwbl. Mae o'r bron yr un chwedl yn cael ei hadrodd am Solario a'r hon a a roddir am yr arlunydd Ffleminaidd Quentin Mastys.

Yn ystum y pen a mynegiad y wynebpryd, ac yn rhagoriaeth a chyfoethogrwydd ei liwiau, y mae Solario wedi cael ei gymharu â Titian. Canmolir ef hefyd am agweddiad teleidwiw ei luniau, ond dywedir ei fod yn ddiffygiol mewn tynnu'r traed a'r dwylo. Roedd Solario hefyd yn enwog iawn fel addurnwr llawysgrifau, ac yn enwedig Beiblau.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.