Ansar al-Sharia (Tiwnisia)

Oddi ar Wicipedia
Ansar al-Sharia
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
IdiolegSalafi jihadism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2011 Edit this on Wikidata
GwladwriaethTiwnisia Edit this on Wikidata
Ansar al-Sharia (Tiwnisia)
Am fudiadau eraill o'r un enw, gweler Ansar al-Sharia (gwahaniaethu).

Mae Ansar al-Sharia (Arabeg : أنصار الشريعة sef 'Amddiffynwyr y Gyfraith Islamaidd'; Ffrangeg: Ansar al-Charia) yn fudiad islamaidd salaffaidd sy'n weithgar yn Tiwnisia ac sy'n hawlio tua 100,000 o gefnogwyr.[1]

Mae'r mudiad yn weithgar ar sawl ffrynt. Ar un lefel, mae aelodau Ansar al-Sharia yn cymryd rhan ym mywyd gwleidyddol Tiwnisia gyda phrotestiadau yn erbyn seciwlariaeth a dylanwadau tramor "anfoesol" e.e. ffilmiau fel Persepolis. Maent hefyd yn darparu elusen i Fwslemiaid tlawd. Ond mae'r mudiad yn cynnwys elfennau jihadaidd hefyd sy'n credu mewn defnyddio trais i sefydlu Islamiaeth yn y wlad ac mewn gwledydd eraill ac a gyhuddir o weithrediadau terfysgol.

Cysylltir jihadwyr Ansar al-Sharia gyda grwp o wrthryfelwyr Islamaidd sydd wedi sefydlu eu hunain ym mynyddoedd Jebel Chambi, ger Kasserine yng ngorllewin y wlad, ger y ffin ag Algeria. Lladdwyd wyth milwr Tiwnisiaidd gan y gwrthryfelwyr ar 29 Gorffennaf 2013.[2] Ddechrau mis Awst 2013 dechreuodd byddin Tiwnisia ymosod ar eu llochesau gan ddefnyddio gynnau ac ymosodiadau o'r awyr gan awyrennau Llu Awyr Tiwnisia. Yn ôl terfysgwr a ddalwyd, mae'r jihadwyr yn cynnwys Algeriaid, Mawritaniaid a Nigeriaid ond mae'r mwyafrif yn Tiwnisiaid.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]