Ankst

Oddi ar Wicipedia
Ankst
Sefydlwyd 1988
Sylfaenydd Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams
Diddymwyd 1998
Math o gerddoriaeth Amrywiaeth annibynnol
Gwlad Cymru

Roedd Ankst yn label recordio annibynnol Cymraeg. Sefydlwyd yn 1988 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams. Sefydlwyd i ryddhau recordiau bandiau oedd angen labeli i hyrwyddo eu cerddoriaeth. Rhoddwyd yr enw Ankst ar y label gan Richard Wyn Jones sydd bellach yn ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth. Wedi rhyddhau sawl caset ar raddfa fechan, symudodd y label i Gaerdydd a daeth yn bwysicach ym myd cerddoriaeth. Bu yn gyfrifol am lwyddiant sawl band Cymraeg gan gynnwys Llwybr Llaethog, Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci. Rhyddhawyd ep's gan Topper a Melys ar y label.

Rhwng 1988 a 1997, rhyddhaodd tua 80 o recordiau cyn iddo ymrannu yn ddau gwmni, sef 'Rheoli Ankst Management Ltd.' (oedd yn cael ei redeg gan Alun Llwyd a Gruffudd Jones ac oedd yn gyfrifol am edrych ar ôl Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci, The Longcut, ac am gyfnod, Cerys Matthews) ac Ankstmusik, y label. Bellach mae Alun Llwyd yn rhedeg cwmni Turnstile, sydd yn gwmni rheoli a label recordio. Mae hefyd yn rhedeg Epa, sydd yn gwmni cyhoeddi caneuon. Mae Emyr Glyn Williams yn rhedeg label Ankstmusik.

Ankstmusik[golygu | golygu cod]

Mae'r label Ankstmusik (sydd heddiw wedi ei lleoli ym Mhentraeth ar Ynys Môn ac yn cael ei redeg gan Emyr Williams), yn rhyddhau recordiau gan fandiau megis Datblygu, Tystion, Ectogram, Zabrinski, Rheinallt H Rowlands, MC Mabon a Wendykurk. Mae tri albym diweddar Geraint Jarman wedi eu ryddhau ar y label.